[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.9.5
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 39: Llinell 39:


Roedd rhai cyfyngiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl: nid oedd yn creu system gyflawn o un person, un bleidlais. Mwynhaodd 7% o'r boblogaeth bleidlais lluosog yn etholiad 1918: dynion dosbarth canol yn bennaf a gafodd bleidlais ychwanegol oherwydd etholaeth prifysgol (cynyddodd y Ddeddf hon bleidlais y brifysgol trwy greu seddi Prifysgolion Cyfunol Saesneg) neu ledaenu busnes i etholaethau eraill. Roedd anghydraddoldeb arwyddocaol hefyd rhwng hawliau pleidleisio dynion a menywod: gallai menywod bleidleisio dim ond os oeddent dros 30 oed. Roedd hyn trwy gynllun ac i wneud yn iawn am y lleihad mewn dynion yn dilyn y rhyfel byd cyntaf.
Roedd rhai cyfyngiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl: nid oedd yn creu system gyflawn o un person, un bleidlais. Mwynhaodd 7% o'r boblogaeth bleidlais lluosog yn etholiad 1918: dynion dosbarth canol yn bennaf a gafodd bleidlais ychwanegol oherwydd etholaeth prifysgol (cynyddodd y Ddeddf hon bleidlais y brifysgol trwy greu seddi Prifysgolion Cyfunol Saesneg) neu ledaenu busnes i etholaethau eraill. Roedd anghydraddoldeb arwyddocaol hefyd rhwng hawliau pleidleisio dynion a menywod: gallai menywod bleidleisio dim ond os oeddent dros 30 oed. Roedd hyn trwy gynllun ac i wneud yn iawn am y lleihad mewn dynion yn dilyn y rhyfel byd cyntaf.

== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}


== Ffynonellau ==
== Ffynonellau ==
* {{Cite web|url=http://hansard.millbanksystems.com/bills/representation-of-the-people-bill|title=Index of ''Representation of the People Bill''|access-date=11 Medi 2016|website=Hansard|pages=Dates 1917-06-06 to 1918-11-04 relate to the bill enacted in 1918|nopp=Y|archive-date=2017-04-24|archive-url=https://web.archive.org/web/20170424122833/http://hansard.millbanksystems.com/bills/representation-of-the-people-bill|url-status=dead}}
* {{cite web |url=https://api.parliament.uk/historic-hansard/bills/representation-of-the-people-bill |title=Index of ''Representation of the People Bill'' |work=Hansard|no-pp=y|pages=Dates 1917-06-06 to 1918-11-04 relate to the bill enacted in 1918 |access-date=11 Medi 2016 }}


== Darllen pellach ==
== Darllen pellach ==
* Blackburn, Robert. "Laying the foundations of the modern voting system: The Representation of the People Act 1918." ''Parliamentary History'' 30.1 (2011): 33–52.
* Robert Blackburn, "Laying the foundations of the modern voting system: The Representation of the People Act 1918", ''Parliamentary History'' 30.1 (2011): 33–52

== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig 1918]]
[[Categori:Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig 1918]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:21, 1 Mehefin 2024

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918
Enghraifft o'r canlynolelection act, Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad1918 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1918 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918

Roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn Ddeddf Seneddol a basiwyd i ddiwygio'r system etholiadol ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon. Fe'i gelwir weithiau fel y Pedwerydd Ddeddf Diwygio. Y ddeddf hon oedd y cyntaf i gynnwys bron pawb yn y system wleidyddol a chynnwys menywod am y tro cyntaf, gan ymestyn yr etholfraint gan 5.6 miliwn o ddynion[1] ac 8.4 miliwn o fenywod.[2] Deddfodd nifer o arferion newydd mewn etholiadau, gan gynnwys gwneud preswyliaeth mewn etholaeth benodol yn sail i'r hawl i bleidleisio, tra'n sefydlu y dull etholiadol cyntaf-i'r felin a gwrthod cynrychiolaeth gyfrannol.[3]

Cefndir

[golygu | golygu cod]
Darlun yn y papur newydd Brydeinig Punch, yn dathlu hawl i ferched gael pleidlais yn rhannol gyda'r Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918

Hyd yn oed ar ôl pasio'r Trydydd Ddeddf Diwygio yn 1884, dim ond 60% o ddeiliaid cartrefi gwrywaidd dros 21 oed oedd â'r bleidlais. Yn dilyn erchylliadau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ni fyddai miliynau o filwyr a oedd wedi dychwelyd, wedi bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol hwyr. (Bu'r etholiad blaenorol ym mis Rhagfyr 1910. Roedd Deddf y Senedd 1911 wedi gosod uchafswm Senedd yn bum mlynedd, ond gohiriodd gwelliant i'r Ddeddf yr etholiad cyffredinol tan ar ôl i'r rhyfel orffen.) Dechreuodd mater hawl pleidlais i fenywod gasglu momentwm yn ystod hanner olaf y 19g yn seiliedig ar waith meddylwyr rhyddfrydol megis John Stuart Mill. Roedd y Swffragetau a'r Swffragetiaid wedi gwthio ar eu cyfer eu hunain i gael eu cynrychioli cyn y rhyfel, ond ychydig iawn a gyflawnwyd er gwaethaf ymosodiad treisgar gan rai fel Emmeline Pankhurst ac Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched.

Codwyd y mater gan y Swffraget Millicent Fawcett yng Nghynhadledd y Llefarydd ym 1916. Galwodd am i'r oedran pleidleisio gael ei ostwng i 18 i ddymchwel y mwyafrif gwrywaidd. Awgrymodd hefyd, pe na fyddai hyn yn bosibl, y dylai menywod 30-35 mlwydd oed gael eu rhyddfreinio. Gwelwyd mwyafrif o unfrydedd trawsbleidiol yn y dadleuon yn Nhŷ'r Senedd. Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref, George Cave (Con) o fewn y glymblaid llywodraethol y Ddeddf:

War by all classes of our countrymen has brought us nearer together, has opened men’s eyes, and removed misunderstandings on all sides. It has made it, I think, impossible that ever again, at all events in the lifetime of the present generation, there should be a revival of the old class feeling which was responsible for so much, and, among other things, for the exclusion for a period, of so many of our population from the class of electors. I think I need say no more to justify this extension of the franchise.[4]

Termau'r Ddeddf

[golygu | golygu cod]

Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn ehangu pleidlais trwy ddiddymu bron pob cymhwyster eiddo ar gyfer dynion a thrwy rhyddfreinio menywod dros 30 a gyfarfu â chymwysterau lleiafswm eiddo. Derbyniwyd rhyddfreinio'r grŵp olaf hwn fel cydnabyddiaeth o'r cyfraniad a wnaed gan weithwyr amddiffyn menywaidd. Fodd bynnag, nid oedd menywod o hyd yn wleidyddol gyfartal â dynion (a allai bleidleisio o 21 oed); llwyddwyd i gael cydraddoldeb etholiadol llawn yn Iwerddon yn 1922, ond ni ddigwyddodd hyn ym Mhrydain hyd at Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Cydradd) 1928.

Amodau'r Ddedd oedd:[5]

  1. Enillodd pob dyn dros 21 y bleidlais yn yr etholaeth lle'r oeddent yn preswylio. Gallai dynion a oedd wedi troi 19 yn ystod y gwasanaeth mewn cysylltiad â'r Rhyfel Byd Cyntaf hefyd bleidleisio hyd yn oed os oeddent o dan 21, er bod peth dryswch ynghylch a allent wneud hynny ar ôl cael eu rhyddhau o'r gwasanaeth. Esboniodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1920 hyn yn gadarnhaol, er bod hyn ar ôl etholiad cyffredinol 1918.
  2. Derbyniodd menywod dros 30 oed y bleidlais os oeddent naill ai'n aelod neu'n briod ag aelod o'r Gofrestr Llywodraeth Leol, perchennog eiddo, neu'n berson graddedig mewn etholaeth Prifysgol.
  3. Rhai seddi wedi'u hailddosbarthu i drefi diwydiannol.
  4. Pob pol ar gyfer etholiad i'w gynnal ar ddyddiad penodol, yn hytrach na thros nifer o ddiwrnodau mewn gwahanol etholaethau fel o'r blaen.[6]

Roedd costau'r swyddogion dychwelyd am y tro cyntaf i gael eu talu gan y Trysorlys. Cyn etholiad cyffredinol 1918, trosglwyddwyd y costau gweinyddol ar yr ymgeiswyr i'w talu, yn ogystal â'u treuliau personol.

Newidiadau gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Roedd maint yr etholwyr wedi treblu o'r 7.7 miliwn a oedd â hawl i bleidleisio yn 1912 i 21.4 miliwn erbyn diwedd 1918. Roedd y merched nawr yn cyfrif am tua 43% o'r etholwyr. Pe bai menywod wedi cael eu rhyddfreinio ar sail yr un gofynion â dynion, byddent wedi bod yn y mwyafrif oherwydd colli dynion yn y rhyfel. Gall hyn esbonio pam y setlwyd ar 30 oed.[7]

Yn ychwanegol at y newidiadau i'r bleidlais, sefydlodd y Ddeddf hefyd y system bresennol o gynnal etholiadau cyffredinol ar un diwrnod, yn hytrach na chael ei chynnal dros gyfnod o wythnosau (er mai dim ond un diwrnod ym mhob etholaeth y byddai'r pleidleisio ei hun yn digwydd),[6] ac fe gyflwynodd y gofrestr etholiadol flynyddol.

Pleidleisiau

[golygu | golygu cod]

Cafodd y bil ar gyfer Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ei basio gan fwyafrif o 385 i 55 yn Nhy'r Cyffredin ar 19 Mehefin 1917. Roedd yn rhaid i'r bil barhau i fynd trwy Dŷ'r Arglwyddi, ond nid oedd yr Arglwydd Curzon, llywydd y Gynghrair Genedlaethol ar gyfer Gwrthwynebiad Pleidlais Menywod, eisiau gwrthdaro â'r Ty Cyffredin ac felly ni wnaeth wrthwynebu'r bil. Roedd llawer o wrthwynebwyr eraill y Mesur yn Nhy'r Arglwyddi wedi'u siomi pan wrthododd i weithredu fel eu llefarydd. Pasiwyd y bil gan 134 i 71 o bleidleisiau. Cynyddodd pleidlais menywod eto yn 1928 gan iddynt barhau i fod yn 52.7% o'r etholwyr.

Canlyniad

[golygu | golygu cod]

Yr etholiad cyntaf a gynhaliwyd dan y system newydd oedd etholiad cyffredinol 1918. Cynhaliwyd y bleidlais ar 14 Rhagfyr 1918, ond ni ddechreuwyd cyfrif y pleidleisiau tan 28 Rhagfyr 1918. (Gweler http://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/SN04512/SN04512.pdf)

Ar ôl i'r Ddeddf hon roi pleidlais i oddeutu 8.4 miliwn o fenywod, pasiwyd Deddf Senedd (Cymhwyster Menywod) 1918 ym mis Tachwedd 1918, gan ganiatáu i ferched gael eu hethol i'r Senedd. Roedd nifer o ferched yn sefyll i gael eu hethol i Dŷ'r Cyffredin yn 1918, ond dim ond un, sef ymgeisydd Sinn Féin ar gyfer Dublin St. Patrick's, Constance Markievicz, a etholwyd; fodd bynnag, dewisodd beidio â chymryd ei sedd yn San Steffan ac yn hytrach eistedd yn Dail Eireann (y First Dail) yn Nulyn. Y wraig gyntaf i gymryd ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin oedd Nancy Astor ar 1 Rhagfyr 1919, ar ôl cael ei ethol yn AS Clymblaid Ceidwadol ar gyfer Plymouth Sutton ar 28 Tachwedd 1919.

Fel Aelodau Seneddol, enillodd menywod yr hawl i ddod yn weinidogion y llywodraeth. Y gweinidog cabinet menywaidd cyntaf ac aelod o'r Cyfrin Gyngor oedd Margaret Bondfield a oedd yn Weinidog Llafur rhwng 1929 a 1931.[8]

Roedd rhai cyfyngiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl: nid oedd yn creu system gyflawn o un person, un bleidlais. Mwynhaodd 7% o'r boblogaeth bleidlais lluosog yn etholiad 1918: dynion dosbarth canol yn bennaf a gafodd bleidlais ychwanegol oherwydd etholaeth prifysgol (cynyddodd y Ddeddf hon bleidlais y brifysgol trwy greu seddi Prifysgolion Cyfunol Saesneg) neu ledaenu busnes i etholaethau eraill. Roedd anghydraddoldeb arwyddocaol hefyd rhwng hawliau pleidleisio dynion a menywod: gallai menywod bleidleisio dim ond os oeddent dros 30 oed. Roedd hyn trwy gynllun ac i wneud yn iawn am y lleihad mewn dynion yn dilyn y rhyfel byd cyntaf.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • "Index of Representation of the People Bill". Hansard. Dates 1917-06-06 to 1918-11-04 relate to the bill enacted in 1918. Cyrchwyd 11 Medi 2016.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Robert Blackburn, "Laying the foundations of the modern voting system: The Representation of the People Act 1918", Parliamentary History 30.1 (2011): 33–52

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Harold L. Smith (12 Mai 2014). The British Women's Suffrage Campaign 1866–1928: Revised 2nd Edition. Routledge. t. 95. ISBN 978-1-317-86225-3.Check date values in: |date=
  2. Martin Roberts (2001). Britain, 1846–1964: The Challenge of Change. Oxford University Press. t. 1. ISBN 978-0-19-913373-4.
  3. Blackburn (2011).
  4. Hansard HC Debs (22 May 1917) vol 93, C 2135: http://parlipapers.proquest.com/parlipapers/docview/t71.d76.cds5cv0093p0-0016, Accessed 17 Chwefror 2017.
  5. Fraser, Sir Hugh. "The Representation of the People Act, 1918 with explanatory notes". Internet Archive. Cyrchwyd 28 Ionawr 2009.
  6. 6.0 6.1 Syddique, E. M. "Why are British elections always held on Thursdays?". The Guardian. Cyrchwyd 10 Ebrill 2017.
  7. "Electoral Registers Through The Years", on electoralregisters.org website. Accessed 27 Gorffennaf 2015
  8. Heater, Derek (2006). Citizenship in Britain: A History. Edinburgh University Press. t. 145. ISBN 9780748626724.