Juan José Flores
Juan José Flores | |
---|---|
Delwedd:1 Juan José Flores.png Portread o Juan José Flores. | |
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1800 Puerto Cabello |
Bu farw | 1 Hydref 1864 Puná Island |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Gran Colombia, Ecwador, Feneswela |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol, tirddaliadaeth |
Swydd | Arlywydd Ecwador, Arlywydd Ecwador, President of the National Assembly of Ecuador, goruchwyliwr, Arlywydd Ecwador |
Priod | Mercedes Jijón |
Plant | Antonio Flores Jijón |
Milwr a gwleidydd o Feneswela oedd Juan José Flores (1800 – 1 Hydref 1864) a fu'n Arlywydd Ecwador o 1830 i 1835 ac o 1839 i 1845.
Ganed yn Puerto Cabello ar arfordir gogleddol Capteiniaeth Gyffredinol Feneswela, rhan o Ymerodraeth Sbaen, yn fab anghyfreithlon. Marsiandïwr Sbaenaidd oedd ei dad, a ddychwelodd i Ewrop. Cafodd Juan ei fagu mewn tlodi, heb fawr o addysg, cyn iddo ymuno â lluoedd brenhinol Sbaen yn 14 oed, yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Feneswela (1810–23). Ym 1817 trodd at achos y chwyldroadwyr ac ymuno â byddin Simón Bolívar. Dyrchafwyd yn gyrnol ym 1821 am ei ran ym Mrwydr Carabobo, ac yn gadfridog ym 1824.[1]
Wedi i Feneswela a Granada Newydd ennill eu hannibyniaeth ar Sbaen, ar ffurf Gran Colombia, penodwyd Flores yn Gadlywydd Cyffredinol ar ardal Pasto (heddiw yn ne Colombia), a oedd yn gadarnle i'r brenhinwyr. O'r herwydd, ni chafodd ran yn y brwydrau i ryddhau Ecwador a Pheriw, ond ym 1826 fe'i penodwyd yn arolygwr ar Dalaith Ecwador.[2] Atgyfnerthodd ei rym drwy briodi Mercedes Jijón y Vivanco, merch o deulu bonheddig lleol. Bu'n ddirprwy i'r Cadfridog Antonio José de Sucre yn ystod Rhyfel Gran Colombia a Pheriw (1828–29), ac ymladdai ym Mrwydr Tarqui.[1] Galwodd Flores gynulliad yn Quito ym Mai 1830 i ddatgan annibyniaeth Ecwador ar Gran Colombia. Cyhoeddwyd Flores yn bennaeth ar y wlad, ac yn sgil llofruddiaeth y Cadfridog Sucre ym Mehefin etholwyd Flores yn Arlywydd Ecwador.
Yn ystod ei lywodraeth gyntaf, aeth ati i amddiffyn annibyniaeth Ecwador yn erbyn Gweriniaeth Granada Newydd i'r gogledd (a sefydlwyd yn sgil annibyniaeth Feneswela ar Gran Colombia). Methiant a fu'r rhyfel ym 1832 i gyfeddiannu rhanbarth Cauca, ond cytunwyd i gydnabod y ffin rhwng Ecwador a Granada Newydd ar hyd Afon Carchi. O ran materion mewnwladol, rhoddwyd sawl polisi rhyddfrydol ar waith gan gynnwys cyfyngu ar freintiau'r glerigiaeth, cyfundrefnu addysg gyhoeddus (gydag ysgolion arbennig i'r bobloedd frodorol), a diwygio trethi.[2]
Yn sgil gwrthryfel yn ei erbyn, cytunodd Flores i ildio'r arlywyddiaeth i Vicente Rocafuerte ym 1835. Parhaodd Flores yn bennaeth ar luoedd arfog Ecwador drwy gydol llywodraeth yr Arlywydd Rocafuerte. Dychwelodd Flores i'r arlywyddiaeth ym 1839, a cheisiodd droi Ecwador yn unbennaeth neu frenhiniaeth er mwyn cadw ei rym am oes. Cafodd ei ail-ethol ym 1843 gyda chyfansoddiad awdurdodaidd newydd, a derbyniodd gefnogaeth oddi ar Sbaen i sefydlu ei orsedd yn Quito.[2] Bu gwrthryfel arall yn ei erbyn ym 1845, ac aeth Flores yn alltud i Sbaen.
Trefnodd Flores ymgyrch arfog i oresgyn Ecwador, ond methodd yn sgil embargo ar ei longau gan yr Ymerodraeth Brydeinig. Dychwelodd i Dde America ym 1847 a threuliodd dair mlynedd ar ddeg yn cynllwynio mewn sawl gwlad i adennill ei rym. Bu'r Cadfridog José María Urbina yn drech na Flores pan geisiodd oresgyn Ecwador ym 1852. Wedi i oresgyniad gan luoedd Periw arwain at ryfel cartref ym 1860, cafodd Flores ei alw'n ôl i arwain byddin Ecwador. Yn sgil ei fuddugoliaeth, bu Flores yn llywydd ar Gynhadledd Gyfansoddiadol 1861, a benodai Gabriel Garcíá Moreno yn arlywydd y wlad. Er iddo ddioddef afiechyd, brwydrodd Flores yn ystod y rhyfel yn erbyn Colombia ym 1863, a llwyddodd i ostegu gwrthryfel yn Guayaquil gan Urbina ym 1864. Bu farw Juan José Flores ar agerlong ar ei ffordd yn ôl i Guayaquil ar 1 Hydref 1864, yn 64 oed.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Juan José Flores", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Chwefror 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Mark J. Van Aken, "Flores, Juan José (c. 1800–1864)", Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Chwefror 2021.
Darllen pellach
- Armando Aristizábal, Juan José Flores en Berruecos: Síntesis de una infamia (Quito: Casa de la Cultura Ecuatoriana, 1995).
- Elías Laso, Biografía del General Juan José Flores (Quito: heb enw cyhoeddwr, 1924).
- Serápio Eduardo Romero Mendoza, General Juan José Flores, fundador del Ecuador (Caracas: heb enw cyhoeddwr, 1994).
- Gustavo Vásconez Hurtado, El General Juan José Flores: Primer presidente del Ecuador, 1800–1830 (Quito: Casa de la Cultura Ecuatoriana, 1981).
- Gustavo Vásconez Hurtado, El General Juan José Flores: La República, 1830–1845 (Quito: Banco Central del Ecuador, Centro de Investigación y Cultura, 1984).
- Mark J. Van Aken, King of the Night: Juan José Flores and Ecuador, 1824–1864 (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1989).
- Jorge Villalba F., El general Juan José Flores: Fundador de la República del Ecuador (Ecwador: Centro de Estudios Históricos del Ejército, 1994).