Papur newydd
Mae papur newydd yn gyhoeddiad sy'n cynnwys newyddion, gwybodaeth a hysbysebu, fel arfer wedi'i gyhoeddi ar bapur rhad. Gall thema'r papur fod yn un cyffredinol neu o ddiddordeb arbennig, ac fel arfer cyhoeddir yn ddyddiol neu'n wythnosol.
Fformat
[golygu | golygu cod]Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd modern yn un o dri maint:
- Argrafflenni: 600mm x 380mm (23½ x 15 modfedd). Cysylltir fel arfer gyda phapurau mwy deallusol, "uwchfarchnad".
- Tabloidau: 380mm x 300mm (15 by 11¾ modfedd). Hanner maint argrafflenni a welir yn mwy cyffrogawol wedi'u cymharu ag argrafflenni. Gelwir tabloidau gyda chynnwys mwy fel argrafflenni yn gompactau.
- Berliner neu Midi: 470mm x 315mm (18½ x 12¼ modfedd). Defnyddir gan bapurau Ewropeaidd megis Le Monde yn Ffrainc, La Stampa yn yr Eidal neu The Guardian yn y Deyrnas Unedig.
Papurau newydd Cymraeg
[golygu | golygu cod]- Prif erthygl: Papurau newydd Cymraeg.
Caiff Y Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Mae papurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduro Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf. Y Byd oedd y papur newydd dyddiol Cymraeg arfaethedig.
Papurau newydd Saesneg Cymru
[golygu | golygu cod]Ymhlith y papurau newydd Saesneg a gyhoeddwyd yng Nghymru mae:
- Aberystwyth Times
- Cambrian News
- Carmarthen Journal
- Carnarvon and Denbigh Herald
- County Observer and Monmouthshire Central Advertiser
- Daily Post
- Denbigh, Ruthin and Vale of Clwyd Free Press
- Glamorgan Gazette - 1894 ymlaen
- Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette
- Haverfordwest and Milford Haven Telegraph
- Llangollen Advertiser
- North Wales Chronicle
- North Wales Gazette
- North Wales Weekly News
- Pembrokeshire Herald
- Pontypool Free Press
- Potter's Electric News
- South Wales Argus
- The Aberdare Times
- The Aberystwith Observer
- The Brecon County Times
- The Brecon Reporter
- The Cambrian (Cymru)
- The Cardiff Times
- The Cardigan Bay Visitor
- The Cardigan Observer
- The Carmarthen Weekly Reporter
- The Demetian Mirror
- The Illustrated Usk Observer
- The Merthyr Telegraph
- The Monmouthshire Merlin
- The North Wales Express
- The Pontypridd Chronicle
- The Principality
- The Visitors' List and Guide
- Tivy Side Advertiser
- Western Mail
Enwau
[golygu | golygu cod]Mae enwau papurau newydd yn amrywio'n eang o iaith i iaith ac o wlad i wlad. Mae rhai teitlau yn gwbl unigryw, ond mae nifer o newyddiaduron yn rhannu elfennau tebyg yn eu henwau. Yn aml, mae'r enwau yn cynnwys nod o ddinas, ardal neu wlad y papur. Ceir enghreifftiau o'r elfennau amlaf isod:
- Amserau neu Oes(oedd), e.e. Yr Amserau, The Times, The New York Times, The Times of India, Financial Times, Zìyóu Shíbào, De Tijd, The Age, Die Zeit
- Arsyllwr neu Ysbïwr, e.e. The Observer, Yr Yspïwr
- Baner, e.e. Baner America, Evening Standard, Toronto Standard
- Byd, e.e. Y Byd, Le Monde, Die Welt
- Cronicl, e.e. Cronicl yr Oes, Deccan Chronicle, Houston Chronicle
- Dinesydd, e.e. Y Dinesydd, Key West Citizen, The Citizen
- Drych, e.e. Y Drych, Daily Mirror
- Eco, e.e. Eco'r Wyddfa, Liverpool Echo, L'Echo
- Gwasg, e.e. Y Wasg, La Presse, La Stampa
- Gweriniaeth, e.e. La Repubblica, An Phoblacht
- Gwlad neu Genedl, e.e. El País, La Nación
- Gwyliedydd neu Amddiffynnydd, e.e. Y Gwyliedydd Americanaidd, The Guardian, Orlando Sentinel
- Haul, e.e. Haul Gomer, The Sun, Die Son
- Herald, e.e. Yr Herald Cymraeg, The Sydney Morning Herald, The Miami Herald
- Hysbysebwr, e.e. Tivy Side Advertiser, The Advertiser
- Llais, e.e. The Village Voice, Llais Ardudwy
- Newyddion, e.e. Newyddion Gwent, Běijīng Wǎnbào, Het Laatste Nieuws
- Papur, e.e. Papur Menai, Papur y Cwm
- Post, e.e. Western Mail, Daily Mail, The Washington Post, The Jerusalem Post
- Rhedegydd, e.e. Corriere della Sera, The Courier, Berliner Kurier
- Seren, e.e. Seren Hafren, Seren Gomer, Daily Star, Morning Star
- Siwrnal neu Gyfnodolyn, e.e. The Wall Street Journal
- Telegraff, e.e. The Daily Telegraph, De Telegraaf, Telegrafi
- Tribiwn, e.e. Chicago Tribune, Trybuna, La Tribune
Mae gan nifer o bapurau teitlau sy'n cyfleu faint mor aml y'i cyhoeddir, megis y Daily Express Rénmín Rìbào, a The Weekly News. Mae gan eraill deitlau sy'n dynodi ai papur bore neu bapur hwyr yw'r cyhoeddiad, er enghraifft y South China Morning Post, De Morgen, a Le Soir. Mae rhai enwau hefyd yn cyfeirio at gymeriadau mytholegol megis y negesydd Mercher (El Mercurio, San Jose Mercury News) neu Argus Panoptes (Cape Argus, South Wales Argus). Mae rhai enwau yn cyfuno mwy nag un o'r syniadau uchod, er enghraifft yr International Herald Tribune, The Globe and Mail, y Chicago Sun-Times, a Baner ac Amserau Cymru. Gan amlaf mae enw cyfansawdd o'r fath yn arwydd o ddau gyhoeddiad yn cyfuno.[1]
Yr Unol Daleithiau
[golygu | golygu cod]Ym 1937, roedd gan tua ddau o bob tri phapur newydd dyddiol yn yr Unol Daleithiau un o'r enwau canlynol: News, Times, Journal, Herald, Tribune, Press, Star, Record(er), Democrat, Gazette, Post, Courier, Sun, Leader, Republic(an).[1] Mae'r teitlau Democrat a Republic(an) ar gyhoeddiadau Americanaidd yn cyfeirio at ddwy brif blaid yr Unol Daleithiau, y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Larson, Cedric. "American Newspaper Titles", American Speech, 12(1) (Chwefror 1937), tt. 10-18.