Dewi Griffiths
Ffermwr a rhedwr pellter hir yw Dewi Griffiths (ganwyd 8 Medi 1991).
Dewi Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 9 Awst 1991 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rhedwr, ffermwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Magwyd Dewi ar fferm Pantydderwen yn Llanfynydd ger Llandeilo. Aeth i astudio astudio mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n parhau i weithio ar fferm ei rieni tra'n cystadlu fel athletwr.[1]
Gyrfa
golyguRoedd yn mwynhau rhedeg ers ei fod yn blentyn, gan ymarfer ar lonydd cefn o gwmpas ardal Llandeilo. Bu'n rhedeg gyda thîm yr ysgol cyn ymuno â chlwb rhedeg Harriers Caerfyrddin gan gystadlu mewn rasys traws gwlad, ffordd a thrac. Mae'n cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a British Athletics.
Mae'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Cymru a roedd yn fuddugol saith gwaith rhwng 2012 a 2019. Ni gystadlodd yn 2018 oherwydd anaf.[2]
Ei farathon cyntaf oedd yn Frankfurt yn 2017. cystadlodd yn Marathon Llundain am y tro cyntaf yn 2018 ac yn 2019 daeth yn y 16eg safle yn ras y dynion. Ei amser oedd dwy awr ac 11 munud, saith munud tu ôl i Mo Farah.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hanner Marathon: Dewi Griffiths yn barod am yr her , BBC Cymru Fyw, 25 Mawrth 2016. Cyrchwyd ar 23 Mai 2019.
- ↑ (Saesneg) Dewi Griffiths In Seventh Heaven After Coming Down From The Mountain With Welsh Marathon Legend Steve Jones. dai-sport.com (24 Chwefror 2019). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
- ↑ Y ffermwr sy'n seren marathon rhyngwladol , BBC Cymru Fyw, 23 Mai 2019.