John Wilmot, 2il Iarll Rochester
Bardd ac arglwydd o Loegr oedd John Wilmot, 2il Iarll Rochester (1 Ebrill 1647 – 26 Gorffennaf 1680) sy'n nodedig fel llyswr ffraeth a bardd serch yn ystod Oes yr Adferiad ac un o arloeswyr y ddychangerdd Saesneg.
John Wilmot, 2il Iarll Rochester | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1647 Ditchley |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1680 Woodstock |
Man preswyl | Paris, Ditchley, Ditchley |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, dramodydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Henry Wilmot |
Mam | Anne St John |
Priod | Elizabeth Wilmot |
Plant | Charles Wilmot, Anne Wilmot o Rochester, Elizabeth Wilmot, Malet Wilmot |
Bywgraffiad
golyguGanwyd ar 1 Ebrill 1647 ym maenor Ditchley ger Charlbury, Swydd Rydychen. Etifeddodd deitl Iarll Rochester o ganlyniad i farwolaeth ei dad, Henry Wilmot, yn 1658. Derbyniodd ei radd meistr o Goleg Wadham, Rhydychen yn 1661.
Yn sgil yr Adferiad, daeth Rochester yn un o'r gwŷr ffraeth blaenaf yn llys y Brenin Siarl II, ac yn enwog am ei fercheta. Ymhlith ei gariadon oedd yr actores Elizabeth Barry a'r etifeddes Elizabeth Malet. Ymunodd Rochester â'r Llynges Frenhinol a gwasanaethodd yn yr ail ryfel ar y môr rhwng Teyrnas Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd (1665–67). Priododd Elizabeth Malet yn 1667 a chafodd ei benodi'n fonheddwr y siambr wely gan y Brenin Siarl.[1]
Bu farw ar 26 Gorffennaf 1680 yn Woodstock, Swydd Rydychen, yn 33 oed, yn debyg o syffilis neu glefyd gwenerol arall.
Barddoniaeth
golyguNodir cerddi Rochester am eu traserch, eu ffraethineb, ac am ddathlu pleserau'r cnawd. Ymhlith ei ddychangerddi mae "History of Insipids" (1676), sy'n lladd ar lywodraeth Siarl II, a “Maim’d Debauchee”.
Gweithiau eraill
golyguYsgrifennodd Rochester hefyd un ddrama, Valentinian, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth, yn 1685. Dyma ymdrech ganddo i ail-sgwennu un o drasiedïau John Fletcher. Mae ei lythyrau at ei wraig ac at ei gyfail Henry Savile hefyd yn nodedig am eu rhyddiaith.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) John Wilmot, 2nd earl of Rochester. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Awst 2019.