Parc y Meirw
Heneb yn Sir Benfro yw Parc y Meirw a leolir ym mhlwyf Llanllawer, cymuned Cwm Gwaun, i'r de o Abergwaun.
Math | aliniad cerrig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.985587°N 4.916007°W |
Cod OS | SM9988035910 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE126 |
Codwyd rhes o feini hirion yno rywbryd yn y cyfnod cynhanesyddol. Credir y bu wyth o feini yn wreiddiol ond dim ond pedwar sy'n dal i sefyll yn cynnwys un o 2.5 metr. Roedd y rhes wreiddiol yn ymestyn am 40 metr.[1]
Ymgorfforwyd y meini mewn wal fferm. Mae carreg arall yn gorwedd mewn clawdd gerllaw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Llundain, 1978), tud. 182.