The Boat that Rocked
Mae The Boat That Rocked yn ffilm gomedi a fydd yn cael ei rhyddhau ar y 1af o Ebrill, 2009. Lleolir y ffilm ym 1966 ac edrydd hanes y mudiad gwasanaeth radio ar longau yn y DU. Defnyddiodd y llongau hyn fwlch yn y gyfraith er mwyn darlledu i hyd at 25 miliwn o bobl oddi ar longau a oedd wedi'u hangori oddi ar arfordir y DU. Ysgrifennwyd y ffilm gan Richard Curtis a gwnaed y ffilm gan Working Title Films ar ran Universal Pictures. Mae The Boat That Rocked yn serennu Philip Seymour Hoffman, Bill Nighy, Rhys Ifans, Emma Thompson, Nick Frost a Kenneth Branagh. Dechreuwyd ffilmio ar y 4ydd o Fawrth, 2008 oddi ar arfordir Lloegr a daeth i ben ym mis Mehefin 2008.
Cyfarwyddwr | Richard Curtis |
---|---|
Cynhyrchydd | Tim Bevan Eric Fellner Hilary Bevan Jones |
Ysgrifennwr | Richard Curtis |
Serennu | Philip Seymour Hoffman Bill Nighy Rhys Ifans Nick Frost Rhys Darby Kenneth Branagh January Jones Jack Davenport Emma Thompson Gemma Arterton Olegar Fedoro |
Sinematograffeg | Danny Cohen |
Dylunio | |
Dosbarthydd | Universal Pictures |
Dyddiad rhyddhau | DU: 1 Ebrill, 2009 |
Amser rhedeg | 129 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |