[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Mons

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:55, 31 Mawrth 2010 gan Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Neuadd y Ddinas

Dinas yn Walonia, Gwlad Belg a phrifddinas talaith Hainaut yw Mons (Iseldireg: Bergen), Mae ganddi boblogaeth o tua 92,000.

Saif Mons i'r dwyrain o ardal ddiwydiannol y Borinage, a tua 50 km o'r de o ddinas Brwsel. Yma y lleolir SHAPE, pencadlys milwrol NATO. Dyddia'r ddinas o tua'r ail ganrif CC, a gelwid hi yn Castri locus yn y cyfnod Rhufeinig. Tyfodd yn y Canol Oesoedd, wedi i Sant Waltrudis adeiladu mynachlog yma tua 650.