[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Al Pacino

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:18, 22 Gorffennaf 2017 gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau)
Al Pacino yn 2004

Actor a chyfarwyddwr ffilm a theatr Americanaidd yw Alfredo James "Al" Pacino (ganwyd 25 Ebrill 1940). Ystyrid gan nifer fel un o'r actorion gorau a mwyaf dylanwadol erioed.[1][2]

Ymhlith ei rannau enwocaf yw Michael Corleone yng nghyfres The Godfather, Tony Montana yn Scarface, Sonny Wortzik yn Dog Day Afternoon, Frank Serpico yn Serpico, Lieutenant Colonel Frank Slade yn Scent of a Woman, a Roy Cohn yn Angels in America. Enillodd Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Arweiniol yn 1992 am ei ran yn Scent of a Woman; fe'i enwebwyd am wobr am actor gorau mewn rhan arweiniol neu gefnogol 7 o weithiau cynt am nifer o'i rannau.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Bywgraffiad. IMDb. Adalwyd ar 11 Awst, 2008.
  2. (Saesneg) 100 Greatest Movie Stars. Channel 4. Adalwyd ar 11 Awst, 2008.