[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Baner Indonesia

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:25, 3 Rhagfyr 2012 gan Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Baner Indonesia

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is gwyn yw baner Indonesia. Mae'n seiliedig ar faner Ymerodraeth Majapahit y drydedd ganrif ar ddeg: coch a gwyn oedd lliwiau sanctaidd Indonesia yn y cyfnod hwnnw. Cafodd y lliwiau eu hadfer yn yr ugeinfed ganrif i gynrychioli cenedlaetholdeb Indonesiaidd yn erbyn yr Iseldiroedd, a oedd wedi rheoli'r wlad ers 1800. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 17 Awst, 1945, pan ddatganodd Indonesia ei hannibyniaeth oddi wrth yr Iseldiroedd; enillwyd annibyniaeth lwyr yn 1949.

Mae coch yn symbol o fywyd corfforol, tra bo gwyn yn symboleiddio bywyd ysbrydol yr enaid; gyda'i gilydd maent yn cynrychioli'r bod dynol. Yn ogystal mae coch a gwyn yn lliwiau tradoddiadol yn Ne Ddwyrain Asia.

Mae'r un fath â baner Monaco, ac eithrio'u cyfraneddau (2:3 yw baner Indonesia o gymharu â 4:5).

Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.