[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Gwerddon

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:49, 19 Chwefror 2012 gan HRoestBot (sgwrs | cyfraniadau)
Gwerddon Timimoun yn Algeria
Gweler hefyd Gwerddon (cylchgrawn).

Mae gwerddon (Saesneg oasis) yn ardal yn yr anialwch lle ceir dŵr a thyfiant ar gyfer pobl ac anifeiliaid. Mae'n gallu bod yn ffynnon fach unigol â phalmwydd a phlanhigion eraill yn tyfu o'i chwmpas, neu'n ardal bur sylweddol lle ceir tabl dŵr dan wyneb y tir.

Er y gellir cael gwerddonau mewn unrhyw anialdir, fe'u cysylltir yn bennaf ag anialwch y Sahara ac anialdiroedd mawr Arabia, Iran a rhannau sych Canolbarth Asia. Mae'r gwerddonau pwysicaf yn gartref i drefi a phentrefi ac yn aml iawn yn llefydd hynafol sydd wedi cael eu defnyddio ers cyn cof gan y trigolion lleol ac fel postiau ar hen lwybrau masnach Affrica (e.e. dros y Sahara rhwng Algeria a Tombouctou ym Mali) ac Asia (e.e. Llwybr y Sidan rhwng y Môr Canoldir a Tsieina).