Imam
Gwedd
Mae imam (Arabeg: إمام, Perseg: امام) yn arweinydd crefyddol Islamaidd, yn aml yn arweinydd mosg, sydd i ryw raddau yn debyg i offeiriad Cristnogol (ond ni cheir offeiriaid fel y cyfryw yn Islam).
Fodd bynnag, gall rheolwr gwlad gael ei alw'n imam yn ogystal, am ei fod yn arwain y gymuned Fwslemaidd yn ei wlad fel pennaeth y wladwriaeth. Ond yn ogystal mae'r teitl 'Yr Imam' (Arabeg: الإمام) yn chwarae rhan bwysig yn nhraddodiad Islam, yn arbennig yn achos Mwslemiaid Shia. Yn ystod canrifoedd cyntaf Islam cafodd ei ddefnyddio i gyfeirio at y Caliph yn nhestunau Sunni a Shia fel ei gilydd. Mae'n gallu bod yn deitl er anrhydedd yn ogystal.