[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Kimchi

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:49, 4 Chwefror 2012 gan FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
Kimchi, byrbryd poblogaidd iawn yng Nghorea

.

Bwyd traddodiadol o Corea ydy Kimchi (Corëeg: 김치), gimchi, kimchee, neu kim chee, wedi ei wneud o lysiau a sbeisys amrywiol. Yn aml caiff ei fwyta fel byrbryd (Corëeg: banchan) i ddechrau neu i gyd-fynd gyda phryd o fwyd mwy. Daw ei flas cryf o'r broses o eplesu dros gyfnod o amser, er nid yw pob amrywiad yn gwneud hyn. Mae cannoedd o amrywiadau o kimchi, yn aml yn cynnwys un prif gynhwysyn megis bresych Napa, rhuddygl, nionyn gwyrdd neu ciwcymbr.