Rhydwen Williams
Rhydwen Williams | |
---|---|
Ganwyd | 29 Awst 1916 Pentre |
Bu farw | 2 Awst 1997 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd a nofelydd yn y Gymraeg oedd Rhydwen Williams (29 Awst 1916 – 2 Awst 1997), a aned yn Y Pentre, Cwm Rhondda. Roedd yn awdur toreithiog. Mae'n adnabyddus am ei nofelau, yn arbennig y rhai sy'n portreadu cymunedau clos cymoedd De Cymru.
Bywgraffiad
Cafodd Rhydwen ei addysg yn ysgolion elfennol ac uwchradd ei bentref genedigol cyn mynd yn ei flaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Am ei fod yn genedlaetholwr Cymreig gwrthwynebodd gwasanaeth milwrol yn yr Ail Ryfel Byd ond ymunodd â'r gwasanaeth ambiwlans. Roedd yn gyfaill i'r awdur James Kitchener Davies ac yn aelod o Gylch Cadwgan.
Gwaith llenyddol
Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi a chipiodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946 ac Abertawe 1964.
Fel nofelwr ysgrifennodd ar sawl bwnc, gan gynnwys dychan ar Orsedd y Beirdd (Breuddwyd Rhonabwy Jones), ond ystyrir ei nofelau am gymunedau glofaol y De fel ei waith gorau, yn arbennig y nofel hir Cwm Hiraeth, a gyhoeddwyd mewn tair rhan (Y Briodas, Y Siôl Wen a Dyddiau Dyn) a'r nofel rymus Amser i Wylo am Danchwa Senghennydd 1913.
Llyfryddiaeth ddethol
Cerddi
- Barddoniaeth (1964)
- Y Ffynhonnau (1970)
- Y Chwyldro Gwyrdd (1972)
- Ystlumod (1977)
- Dei Gratia (1984)
Rhyddiaith
- Arswyd y Byd (1949)
- Mentra Gwen (1953)
- Cwm Hiraeth
- Y Briodas (1969)
- Y Siôl Wen (1970)
- Dyddiau Dyn (1973)
- Breuddwyd Rhonabwy Jones (1972)
- The Angry Vineyard (1975). Ei unig waith Saesneg.
- Amser i Wylo (1986)