[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Rhys Ifans

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Rhys Ifans a ddiwygiwyd gan Deb (sgwrs | cyfraniadau) am 10:17, 25 Mai 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Rhys Ifans
GanwydRhys Owain Evans Edit this on Wikidata
22 Gorffennaf 1967 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor, actor teledu, cerddor Edit this on Wikidata
Arddullcomedi, melodrama Edit this on Wikidata
PartnerAnna Friel, Sienna Miller Edit this on Wikidata
Gwobr/auBritish Academy Film Awards Edit this on Wikidata

Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans (ganed Rhys Owain Evans: 22 Gorffennaf 1967). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn a'i addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Mae'n frawd hŷn i'r actor Llŷr Ifans.

Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis cyfresi Swig o..., Sdwnsh, Mwy Na Phapur Newydd a Pobl y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.

Ym Medi 2012 cafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Wici Cymru, sef y gymdeithas sy'n gefn i Wicipedia Cymraeg.

Mae wedi perfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion. Bu'n brif ganwr y Super Furry Animals ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw The Peth; ef yw prif ganwr y grŵp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, sef Sienna Miller, a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith.

Cafodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yng Ngorffennaf 2007 am ei gyfraniad i'r byd ffilmiau.

Ymhlith ei ddramâu llwyfan y mae: 'Accidental Death Of An Anarchist', a berfformiwyd yn Theatr Donmar, Llundain, 2003, 'Hamlet' yn Theatr Clwyd, 'A Midsummer Night's Dream' yn Regent's Park Theatre ac 'Under Milk Wood' a 'Volpone' yn y Royal National Theatre.

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1995 Streetlife Kevin
1996 August Griffiths
1997 Twin Town Jeremy Lewis
1997 Trial & Retribution Michael Dunn Cyfres deledu
1998 Dancing at Lughnasa Gerry Evans
1999 Heart Alex Madden
1999 You're Dead Eddie
1999 Notting Hill Spike
1999 Janice Beard 45 WPM Sean
1999 Hooves of Fire Head Elf Llais
2000 Rancid Aluminium Pete Thompson
2000 Love, Honour and Obey Matthew
2000 Kevin & Perry Go Large Eyeball Paul
2000 Sali Mali Adroddwr
2000 The Replacements Nigel Gruff
2000 Little Nicky Adrian
2001 Hotel Trent Stoken
2001 Christmas Carol: The Movie Bob Cratchit Llais
2001 The Shipping News Beaufield Nutbeem
2001 Human Nature Puff
2001 The 51st State Iki
2002 Once Upon a Time in the Midlands Dek
2003 Danny Deckchair Danny Morgan
2004 Vanity Fair William Dobbin
2004 Enduring Love Jed
2004 Not Only But Always Peter Cook Ffilm deledu
2005 Midsummer Dream Lysander Llais: Fersiwn Saesneg
2005 Chromophobia Colin
2005 The Importance of Being Idle Lazy Man Fideo cerddoriaeth
2006 Garfield: A Tail of Two Kitties McBunny Llais
2007 Four Last Songs Dickie
2007 Hannibal Rising Grutas
2007 Elizabeth: The Golden Age Robert Reston
2008 Come Here Today Alex
2008 A Number Benard (B2)
2009 The Informers Roger
2009 The Boat That Rocked Gavin Kavanagh
2009 Mr. Nobody Nemo's Father
2010 Mr. Nice Howard Marks
2010 Greenberg Ivan Schrank
2010 Passion Play Sam Adamo
2010 Nanny McPhee and the Big Bang Uncle Phil
2010 Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 Xenophilius Lovegood
2010 Exit Through the Gift Shop Adroddwr
2011 Anonymous Edward de Vere
2011 Neverland James Hook Ffilm deledu
2012 The Corrections - Peilot heb ei ddarlledu
2012 The Five-Year Engagement Winton Childs
2012 The Amazing Spider-Man Dr. Curt Connors / The Lizard Enwebwyd — Gwobr Teen Choice Award ar gyfer Movie Villain]]
2013 Another Me Don
2013 Playhouse Presents - "Gifted" Chris
2013 Elementary Mycroft Holmes 7 pennod
2014 Serena Galloway
2014 Madame Bovary Monsieur Lheureux
2015 Dominion[1] Dylan Thomas
2015 She's Funny That Way Seth Gilbert
2015 Len and Company Len Black
2015 Dan y Wenallt Captain Cat Hefyd yn gynhyrchydd
2016 Berlin Station Hector DeJean Cyfres deledu; adnewyddwyd gan Epix ar gyfer Cyfres 2 yn 2017
2016 Alice Through the Looking Glass Zanik Hightopp
2016 Snowden Corbin O'Brian
2019 Official Secrets Ed Vulliamy ôl-gynhyrchu
TBA Misbehaviour Eric Morley Yn ffilmio

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Saint John movie shoot attracts 250 actors from region". CBC News New Brunswick. Canadian Broadcasting Corporation. CBC News. 24 June 2014. Cyrchwyd 1 November 2014.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]