Sbroced
Olwyn wedi ei phroffeilio gyda danedd sy'n masgio gyda cadwyn, trac neu ddeunydd arall trydylliedig yw scroced. Mae'n wahanol i gêr, gan nad yw sbrocedi byth yn cael eu masgio gyda'i gilydd, ac yn wahanol i bwli gan nad oes ganddo fflans pob ochr.
Defnyddir sbrocedi mewn beiciau, beiciau modur, ceir, tanciau a pheiriannau eraill er mwyn trosglwyddo symudiad cylchro rhwng ddau siaft ble mae gerau yn anaddas, neu i roi symudiad llinellol i drac neu dap.
Beiciau
Gall cymhareb gêr y cadwyn yrru mewn beiciau gael ei newid drwy amrywio diamedr, ac felly y nifer o ddanedd, sydd ar y sbroced. Dyma yw sail gerau derailleur. Gall beic 20-gêr, â dwy sbroced yrru gwahanol ar y blaen a deg sbroced gwahanol ar y cefn roi opsiwn o ddefnyddio hyd at ugain gêr. Mae'r gerau isaf yn ei wneud yn haws i fynd i fyny allt a'r gerau uwch yn galluogi symudiad cynt ar ffyrdd gwastad neu i lawr allt. Mewn modd tebyg, mae newid y sbrocedi ar feic modur yn gallu newid nodweddion cyflymiad a chyflymdra uchaf y cerbyd drwy newid y gymhareb gêr.
Cerbydau gyda thraciau
Mewn cerbydau trac lindys mae'r olwynion danneddog sy'n cael eu gyrru gan y modur yn trosglwyddo symudiad i'r traciau'n uniongyrchol, adnabyddir hwn fel sbroced gyrru, a gellir ei leoli wrth gefn neu blaen y cerbyd, a weithiau ar y blaen a'r cefn.
Ffilm a phapur
Defnyddir sbrocedi i gludo ffilm mewn mecanwaith megis taflunydd ffilm a camerau ffilm. Yn yr achos hyn, mae'r sbrocedi yn cysylltu â'r ffilm trwy'r trydylliadau sydd yn y ffilm.
Defnyddir sbrocedi ar gyfer cludo tâp tylliedig ac i fwydo papur mewn rhai argraffwyr cyfrifiadur.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Chain Engagement with Sprockets