[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Wall Street

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Wall Street a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 05:19, 17 Medi 2022. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Wall Street
Enghraifft o'r canlynolstryd Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthManhattan Edit this on Wikidata
Hyd1.1 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Muriau marmor y Gyfnewidfa Stoc yn Ninas Efrog Newydd

Mae yna 383 o Wall Streets gwahanol yn y byd, ond mae'r stryd hanesyddol ym Manhattan Isaf, Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, yn yr Unol Daleithiau. Rhed y stryd i'r dwyrain o Broadway i South Street ar yr Afon Ddwyreiniol, trwy ganol yr Ardal Ariannol hanesyddol. Dyma yw cartref cyntaf Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd; dros y blynyddoedd, mae'r enw Wall Street wedi ei ehangu i gynnwys y gymdogaeth daearyddol o'i hamgylch hefyd. Defnyddir "Wall Street" hefyd fel rhyw fath o dalfyrriad am y diwydiant ariannol Americanaidd, sydd wedi'i lleoli yn ardal Dinas Efrog Newydd. Mae nifer o gyfnewidfeydd stoc mawrion yr Unol Daleithiau a chyfnewidfeydd eraill wedi'u lleoli ar Wall Street ac yn yr Ardal Ariannol, gan gynnwys y NYSE, NASDAQ, AMEX, NYMEX, a NYBOT.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.