[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Y Dyffryn Hollt Mawr

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Y Dyffryn Hollt Mawr a ddiwygiwyd gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau) am 20:39, 23 Hydref 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Penrhyn Sinai, y Môr Marw ac afon Iorddonen.

Y Dyffryn Hollt Mawr[1] (Saesneg: Great Rift Valley) yw'r enw a roddir i ddyffryn hollt tua 6,000 km o hyd, sy'n ymestyn o ogledd Syria hyd Mosambic yn ne-ddwyrain Affrica. Er bod y term yn parhau i gael ei ddefnyddio, fe'i ystyrir yn anghywir yn ddaearegol bellach, gan ei fod yn cynnwys nifer o ddyfrynnoedd hollt ar wahan, er bod cysylltiad rhyngddynt. Defnyddir y term gan mwyaf erbyn hyn i gyfeirio at Ddyffryn Hollt Dwyrain Affrica, sy'n ymestyn o Ethiopia i'r de ar draws Dwyrain Affrica.

Fel y'i disgrifiwyd yn wreiddiol, roedd rhan ogleddol y Dyffryn Hollt Mawr yn ffurfio Dyffryn Beqaa yn Libanus, yna ymhellach i'r de yn ffurfio Dyffryn Hula yn Israel, yn gwahanu Galilea ag Ucheldiroedd Golan. Mae afon Iorddonen yn llifo ar hyd y dyffryn yma i Fôr Galilea, yna tua'r de trwy ddyffryn Iorddonen i'r Môr Marw. Oddi yno mae'n ffurfio'r Wadi Arabah, yna Gwlff Aqaba a'r Môr Coch. Yn Iseldir Afar mae'n ymrannu yn Grib Aden a Dyffryn Hollt Dwyrain Affrica, sydd wedyn ei hun yn ymrannu i'r Dyffryn Hollt Gorllewinol a'r Dyffryn Hollt Dwyreiniol.

Y Dyffryn Hollt yn Nwyain Affrica

Ceir nifer fawr o lynnoedd yn y dyffrynnoedd hollt hyn yn Nwyrain Affrica. Yn y Dyffryn Hollt Gorllewinol mae Llyn Tanganyika, y llyn dŵr croyw ail-fwyaf yn y byd o ran y maint o ddŵr ynddo. Rhwng y Dyffryn Hollt Gorllewinol a'r Dyffryn Hollt Dwyreiniol mae Llyn Victoria, y llyn dŵr croyw ail-fwyaf yn y byd o ran arwynebedd, ac yn rhan ddeheuol y dyffryn hollt mae Llyn Malawi.

O gylch ymylon y Dyffryn Hollt Gorllewinol ceir rhai o fynyddoedd uchaf Affrica, yn cynnwys Mynyddoedd Virunga, Mynyddoedd Mitumba a Mynyddoedd Ruwenzori.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 82.