Ynys Dewi
Y mae Ynys Dewi yn ynys oddi ar arfordir Penfro, gyferbyn â Thyddewi.
Daearyddiaeth
Amgylchynir yr ynys â chlogwyni syrth ac mae'r môr yn rhedeg yn gyflym o'i chwmpas. Ei hyd yw 3.2km. Mae'n cynnwys 600 erw o dir ac yn codi i 445' (135m) yn ei phwynt uchaf. Mae ei chreigiau'n perthyn i'r cyfnod Ordoficiaidd yn bennaf. Ceir nifer o ffosilau yng ngogledd yr ynys.
Hanes
Mae olion dau gapel bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion hen fynachlog a sefyflwyd gan Ddefynog Sant yn gynnar yn Oes y Seintiau. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu Dewi Sant a Sant Badrig. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle. Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i Sant Justinian tua'r flwyddyn 500.
Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinon yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.
Bu ffermio ar yr ynys, er gwaethaf ei natur greigiog, tan yn bur ddiweddar, ac roedd y gymuned fach yn allforio ŷd, menyn, defaid a gwlân i'r tir mawr hyd 1964. Yn 1968 gwerthwyd yr ynys i'r RSPB.
Natur
Mae'r ynys yn warchodfa natur ac yn gartref i filoedd o adar môr. Mae mwy na 30 math o adar yn nythu arni. Mae adar fel cigfrain, hebogiaid gleision, gwylanod coesddu a gwylanod eraill i'w gweld yn rheolaidd. O gwmpas yr ogofeydd ac ar y traethau bach niferus gwelir morloi llwydion ym mis Awst a Medi.