Ysgrifau Beirniadol
Gwedd
Cyfres o lyfrau ar feirniadaeth lenyddol yw Ysgrifau Beirniadol, a gyhoeddir gan Wasg Gee. Mae'r erthyglau sy'n cael eu cynnwys yn y cyfrolau yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Gymraeg o gyfnod Yr Hengerdd hyd heddiw ond ceir yn ogystal erthyglau am lenyddiaethau Celtaidd eraill ynghyd â phynciau llenyddol mwy cyffredinol. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn y gyfres yn 1965 ac erbyn 2013 gyda Ysgrifau Beirniadol XXXI roedd 31 cyfrol wedi cael eu cyhoeddi.
Cyfranwyr
[golygu | golygu cod]Mae nifer o ysgolheigion Cymreig a Cheltaidd wedi cyfrannu i'r gyfres, yn cynnwys:
- J. E. Caerwyn Williams (y golygydd cyntaf)
- D. J. Bowen
- Rachel Bromwich
- D. Simon Evans
- Kenneth Jackson
- A. O. H. Jarman
- Bedwyr Lewis Jones
- Dafydd Glyn Jones
- John Gwilym Jones
- R. M. Jones
- Saunders Lewis
- Derec Llwyd Morgan
- Proinsias Mac Cana
- Brinley Rees
- John Rowlands
- Gwyn Thomas