Atomfa'r Wylfa
Math | atomfa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbadrig |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.4167°N 4.4833°W |
Rheolir gan | Magnox Ltd |
Gorsaf bŵer niwclear yng ngogledd Ynys Môn yw Atomfa'r Wylfa neu Gorsaf Bŵer Niwclear yr Wylfa. Nid yw'n cynhyrchu trydan bellach. Saif ar benrhyn ar yr arfordir, ychydig i'r dwyrain o dref Cemaes. Daw'r enw o enw tŷ a adeiladwyd ar y safle yn niwedd y 19g gan David Hughes.
Adeiladwyd yr atomfa o 1963 ymlaen (ond roedd gwaith paratoi'r safle wedi dechrau yn 1962) ac agorwyd yr orsaf yn 1971. Mae'n cynnwys dau adweithydd niwclear Magnox, 490 MW yr un, "Wylfa-1" a "Wylfa-2". Hi yw'r orsaf fwyaf o'r math yma yn y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddwyd yn 2006 y byddai gorsaf yr Wylfa yn cau yn 2010, gan na byddai'n economaidd ei chadw wedi'r dyddiad hwnnw. Bu awgrym y gellid ei chadw ar agor am rai blynyddoedd wedyn. Yn 2012, cafodd Adweithydd 2 ei ddiffodd, ac ar 30 Rhagfyr 2015, cafodd Adweithydd 1 ei ddiffodd, gan ddod â 44 mlynedd o gynhyrchu trydan ar y safle i ben.
Mae cynigion i adeiladu gorsaf niwclear newydd, Wylfa B, ar y safle, er bod hyn yn cael ei wrthwynebu gan grŵp PAWB (Pobl Atal Wylfa-B).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Arfau niwclear
- Atomfa
- Atomfa Trawsfynydd
- Ffiseg niwclear
- Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol
- Rhestr o wledydd gyda phwer niwclear
- Sellafield
- Wraniwm