Gorsaf reilffordd Grand Central, Efrog Newydd
Delwedd:Image-Grand central Station Outside Night 2.jpg, NYC GC.jpg | |
Math | adeilad gorsaf, gorsaf pengaead, gorsaf reilffordd tanddaearol, atyniad twristaidd, union station |
---|---|
Agoriad swyddogol | 2 Chwefror 1913 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manhattan |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 40.7528°N 73.9772°W |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 67 |
Rheolir gan | Metropolitan Transportation Authority |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Beaux-Arts |
Perchnogaeth | Metropolitan Transportation Authority |
Statws treftadaeth | New York City Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, National Historic Landmark, Historic Civil Engineering Landmark, New York City Landmark, New York State Register of Historic Places listed place |
Manylion | |
Mae Gorsaf Reilffordd Grand Central (Saesneg: Grand Central Terminal) ar stryd Dwyrain 42fed, Efrog Newydd, ac erbyn heddiw, yw terminus y Rheilffordd Metro-North sydd gan 3 lein; y Lein Hudson, sydd ar lan ddwyreiniol yr Afon Hudson ac yn mynd i Poughkeepsie; y Lein Hudson, sydd yn mynd i Wassaic; ac y Lein New Haven, sy'n mynd i New Haven, efo canghenni i Waterbury, Danbury a New Canaan[1] Gwasaneithir yr orsaf gan leiniau 4, 5, 6, 7, ac S o'r reilffordd danddaearol, yr MTA[2].
Hanes
[golygu | golygu cod]Prynwyd tir gan Cornelius Vanderbilt ar gyfer yr orsaf ym 1869. Cynlluniwyd Depo Grand Central, yn costio 6.4 miliwn o ddoleri, gan John B Snook. Roedd yr orsaf yn derminws i 4 rheilffyrdd; Efrog Newydd Canolog ac Afon Hudson, Efrog Newydd a Harlem, ac Efrog Newydd, New Haven a Hartford, pob un ohonynt efo ei gyfleusterau ei hun. Ym 1871, prynwyd yr orsaf Efrog Newydd a Harlem gan P.T.Barnum, ac adeiladwyd Gardd Sgwâr Madison ar y safle. Ym 1900, adeiladwyd Gorsaf Grand Central ar y safle. Yn dilyn damwain ddifrifol mewn twnnel Park Avenue, penderfynwyd i drydaneiddio'r leiniau i'r orsaf ac adeiladu gorsaf newydd ar ddwy lefel. Agorwyd yr orsaf newydd ar 2 Chwefror, 1913.[3].