EuroMillions
Mae EuroMillions yn loteri ryngwladol lle mae'n rhaid dewis 7 rhif cywir, sef pum prif rif arferol a dwy seren lwcus i ennill y brif wobr[1]. Fe'i lansiwyd ar 7 Chwefror 2004 gan Française des Jeux (Ffrainc), Loterías y Apuestas del Estado (Sbaen) a Camelot (y Deyrnas Unedig). Cynhaliwyd y gêm gyntaf ar ddydd Gwener 13 Chwefror 2004 ym Mharis.
Yn wreiddiol, dim ond cwmnïau loteri'r DU, Ffrainc a Sbaen a gymerodd ran, gyda chwmnïau loteri Awstria, Gwlad Belg, Yr Iwerddon, Lwcsembwrg, Portiwgal a'r Swistir yn ymuno ar 8 Hydref 2004. Cynhelir y gemau bob nos Fawrth a nos Wener am 20:45 CET ym Mharis[2]. Mae tocyn EuroMillions safonol yn costio € 2.50, £ 2.50 neu CHF3.50 y llinell. Cynyddodd cost chwarae yn y DU o £ 1.50 i £ 2.00 y llinell ar 7 Tachwedd 2009, oherwydd cyfuniad o gyfradd gyfnewid yr ewro / a'r bunt, a mynediad awtomatig i Millionaire Raffle unigryw'r DU. O 24 Medi 2016 cynyddodd y gost fesul llinell o £ 2.00 i £ 2.50 yn y DU.
O fis Medi 24, 2016 newidiodd nifer y sêr lwcus gellir dewis o bwll o 11 rhif i bwll o 12 rhif. Trwy'r newid gostwngwyd y siawns o ennill y brif wobr o 1: 117miliwn i 1: 140miliwn.
Strwythyr enillion
[golygu | golygu cod]Prif rhifau |
Sêr lwcus |
Siawns o ennill | % o'r pot gwobr | Enillion disgwyliedig (€) | Enillion disgwyliedig (£)[3] | |
---|---|---|---|---|---|---|
Rhanrif | % | |||||
2 | 0 | 1 mewn 22 | 4.57% | 18.25% | €4 | £3.30 |
2 | 1 | 1 mewn 49 | 2.03% | 14.85% | €8 | £6.00 |
1 | 2 | 1 mewn 188 | 0.53% | 4.95% | €10 | £7.60 |
3 | 0 | 1 mewn 314 | 0.32% | 3.50% | €12 | £9.00 |
3 | 1 | 1 mewn 706 | 0.14% | 1.85% | €14 | £10.70 |
2 | 2 | 1 mewn 985 | 0.10% | 1.75% | €19 | £14.20 |
4 | 0 | 1 mewn 13,811 | 0.0072% | 0.38% | €58 | £43.30 |
3 | 2 | 1 mewn 14,125 | 0.0071% | 0.67% | €104 | £78.00 |
4 | 1 | 1 mewn 31,075 | 0.0032% | 0.48% | €164 | £123.00 |
4 | 2 | 1 mewn 621,503 | 0.00016% | 0.45% | €3,076 | £2,307.30 |
5 | 0 | 1 mewn 3,107,515 | 0.000032% | 0.92% | €31,448 | £23,586.00 |
5 | 1 | 1 mewn 6,991,908 | 0.000014% | 3.95% | €303,798 | £227,848.80 |
5 | 2 | 1 mewn 139,838,160 | 0.00000072% | 43.2% neu 27% | Jacpot | Jacpot |
Cronfa Bwster | 4.8% neu 21% | |||||
cyfartaledd cyffredinol | 1 mewn 13 | 7.71% | 100% | €14 | £10.70 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ What is EuroMillions? adalwyd 29 Gorffennaf 2018
- ↑ Cytundeb Rhyngwladol y Gêm (yn Ffrangeg) adalwyd 29 Gorffennaf 2018
- ↑ "Players' Guide to EuroMillions". National Lottery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Medi 2012. Cyrchwyd 22 Medi 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)