Monifieth
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 8,110 |
Gefeilldref/i | Soyaux |
Daearyddiaeth | |
Sir | Angus |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.481°N 2.82°W |
Cod SYG | S19000594 |
Cod OS | NO496323 |
Cod post | DD5 |
Tref yn awdurdod unedol Angus, yr Alban, yw Monifieth[1] (Gaeleg yr Alban: Monadh Fotha).[2]
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 8,370.[3] Fe'i lleolir ar lan ogleddol Moryd Tay ar arfordir y dwyrain. Mae i bob pwrpas yn faestref dinas Dundee, y mae'n sefyll nesaf ati.
Hyd at y 19g roedd Monifieth yn bentref a oedd yn ddibynnol ar amaethyddiaeth a diwydiant ysgafn. Fodd bynnag, ar ddechrau'r ganrif sefydlodd James Low a Robert Fairweather ffowndri yno, ac ym 1815 dechreuon nhw gynhyrchu peiriant cardio ar gyfer llin. Gyda datblygiad y diwydiant tecstilau yn Dundee ac Angus tyfodd y busnes yn gyflym, ac, erbyn diwedd y 19g, roedd James F. Low & Co. yn cynhyrchu amrywiaeth helaeth o beiriannau a ddefnyddiwyd i brosesu a nyddu jiwt, llin a ffibrau eraill. Dechreuodd y cwmni ddenu archebion o bob cwr o'r byd, ac erbyn y 1880au roedd Ffowndri Monifieth yn cyflogi tua 300 o weithwyr. Rhwng 1861 a 1901, cynyddodd poblogaeth Monifieth o 558 i 2,134. Ym 1895 cofrestrwyd Monifieth yn Llys Siryf Forfar fel burgh (corfforaeth ddinesig).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 26 Medi 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-06-08 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 26 Medi 2019
- ↑ City Population; adalwyd 26 Medi 2019