[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Matt Richards

Oddi ar Wicipedia
Matt Richards
Ganwyd17 Rhagfyr 2002 Edit this on Wikidata
Caerwrangon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaethnofiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.mattrichardsswim.co.uk/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auNew York Breakers Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Matthew "Matt" Richards (ganwyd 17 Rhagfyr 2002) yn nofiwr o Brydain.

Cafodd ei eni yn Droitwich[1] i Gymro, Simon Richards, a mam Seisnig.

Nofiodd drydydd cymal y ras aur dull rhydd 4 x 200 metr o Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020, y tîm cyntaf ym Mhrydain i ennill y digwyddiad er 1908. Yn flaenorol, roedd wedi ennill dwy fedal arian mewn rasys cyfnewid dull tîm ym Mhencampwriaethau Ewrop.[2]

Enillodd Richards medal aur fel aelod o'r tîm y dynion yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd yng Nghemau Olympaidd 2020.[3] Roedd Richards a Calum Jarvis y nofwyr newydd o Gymru i ennill medalau aur Olympaidd ers Irene Steer ym 1912.[4]

Ar ôl ennill 100 metr a'r 200 metr dull rhydd ym Mhencampwriaethau Nofio GB, dewiswyd Richards ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 2024.[5] Yn Ngemau Olympaidd a gynhaliwyd ym Mharis, Richards oedd y seithfed rhagbrofol cyflymaf ar gyfer rownd derfynol 200 m dull rhydd. Yn y rownd derfynol, cafodd ei guro i'r ail safle o 0.02 yn unig o eiliad gan David Popovici.[6]

Yn yr un Gemau Olympaidd, nofiodd Richards yn y 4 × 200 m dull rhydd dynion eto, lle enillodd fedal aur arall.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Droitwich-born Matthew Richards helps Team GB to relay final". Worcester News (yn Saesneg). 27 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.
  2. "Three British medals on opening day of swimming at European Championships". Swimming.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mai 2021.
  3. "Medalau aur cyntaf i Gymry yn Tokyo". BBC Cymru Fyw. 28 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
  4. Nicola Bryan (28 Gorffennaf 2021). "Tokyo Olympics: How Matt Richards went from garden pool to gold". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2021.
  5. "Speedo Aquatics GB Swimming Championships 2024". Swimming.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
  6. "Richards wins silver with GB team-mate Scott fourth". BBC Sports (yn Saesneg). 29 Gorffennaf 2024.
  7. "GB retain relay title to win first swimming gold". BBC Sport (yn Saesneg). 30 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.