[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Marathon, Groeg

Oddi ar Wicipedia
Marathon
Mathtref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMarathon Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,260, 4,297, 4,964, 7,170, 2,313 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSanta Maria Capua Vetere, Xiamen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Marathonas, Commune of Marathon Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd226.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr28 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaVarnavas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.155°N 23.9636°E Edit this on Wikidata
Cod post190 07 Edit this on Wikidata
Map

Mae Marathon (Groeg Demotig: Μαραθώνας, Marathónas; Groeg Katharevousa: Μαραθών, Marathón) yn dref yn Attica, Gwlad Groeg, sy'n fwyaf enwog fel safle Brwydr Marathon yn 490 CC, pan orchfygwyd y Persiaid gan yr Atheniaid.

Saif Marathon tua 26.2 milltir (42 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Athen. Yn ôl y traddodiad, rhedodd yr Atheniad Phidippides o faes y frwydr i Athen gyda'r newyddion am y fuddugoliaeth, a syrthiodd yn farw ar ôl trosglwyddo'r newydd. Y pellter yma a ddefnyddiwyd ar gyfer y ras fodern, y Marathon.

Claddwyd yr Atheniaid a laddwyd yn y frwydr, 192 ohonynt, dan domen gladdu gerllaw. Mae colofn farmor ar y domen yn awr, a pharc bychan o'i hamgylch.

Roedd poblogaeth cymuned Marathon yn 5,453 yn 1991.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]