[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Tylluan fach y diffeithwch

Oddi ar Wicipedia
Tylluan fach y diffeithwch
Athene noctua lilith

,

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Strigidae
Genws: Athene[*]
Rhywogaeth: Athene noctua
Enw deuenwol
Athene noctua
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Tylluan fach y diffeithwch (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: tylluanod bach y diffeithwch) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Athene noctua lilith; yr enw Saesneg arno yw Desert little owl. Mae'n perthyn i deulu'r Tylluanod (Lladin: Strigidae) sydd yn urdd y Strigiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. noctua lilith, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia a gogledd Affrica. Nid yw'r rhywogaeth yma yn frodorol i Ynys Prydain; cawsant eu gollwng yn y 19g ac maent wedi ymsefydlu'n llwyddiannus.

Fel y gellir casglu o'r enw, mae'r Dylluan Fach yn un o'r lleiaf o'r tylluanod, 23-27.5 cm o hyd. Mae'n bwyta pryfed, pryfed genwair ac anifeiliaid bychain eraill. Mae i'w gweld yn ystod y dydd yn amlach na'r rhan fwyaf o dylluanod eraill Ewrop.

Ceir y Dylluan Fach mewn tir agored megis ffermdir a pharcdir. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed neu greigiau ac yn dodwy 3-5 ŵy. Yr isrywogaeth a geir trwy'r rhan fwyaf o Ewrop yw A. n. noctua. Mae gan adar yr isrywogaeth hon blu brown gyda marciau gwyn ar y cefn a phlu gwyn gyda marciau brown ar y bol. Mae adar yr isrywogaethau a geir yng ngogledd Affrica (A. n. desertae) a'r Dwyrain Canol (A. n. lilith) yn fwy gwelw.

Pen Athena a'i thylluan ar darn arian tetradrachm, Athen, tua 393-355 CC (llun: gyda chaniatâd CNG Coins)

Mae'r dylluan fach i'w chael fel rheol mewn ardaloedd lle mae cymysgedd o goed a chaeau, ac nid yw'n aderyn mudol. Daw'r enw gwyddonol ar y genws o'r ffaith fod yr aderyn yn gysegredig i'r dduwies Athena, duwies dinas Athen.

Mae'r tylluan fach y diffeithwch yn perthyn i deulu'r Tylluanod (Lladin: Strigidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Ptilopsis leucotis Ptilopsis leucotis
Tylluan bysgod Pel Scotopelia peli
Tylluan bysgod goch Scotopelia ussheri
Tylluan bysgod resog Scotopelia bouvieri
Tylluan sgrech gochlyd Megascops ingens
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Athene noctua vidalii

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Tylluan fach y diffeithwch gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.