Ynysfor Mergui
Gwedd
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tanintharyi Region |
Gwlad | Myanmar |
Arwynebedd | 3,500 km² |
Uwch y môr | 767 metr, 283 metr |
Gerllaw | Môr Andaman |
Cyfesurynnau | 12°N 98°E |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Ynysfor ym Môr Andaman, yng ngogledd-ddwyrain Cefnfor India, yw Ynysfor Mergui sydd yn cynnwys mwy na 200 o ynysoedd ger arfordir de-ddwyrain Myanmar. Ymhlith yr ynysoedd mwyaf mae Mali Kyun, Kadan, Thayawthadangyi, Daung, Saganthit, Bentinck, Letsok-aw, Kanmaw, Lanbi, a Zadetkyi. Maent yn fynyddig ac yn llawn jynglau.
Prif drigolion yr ynysoedd yw'r bobl Moken, a elwir yn "Sipsiwn y Môr". Mae'r economi yn dibynnu ar fwyngloddio tun a thwngsten, pysgota perlau a chiwcymbrau'r môr, a nythau a gynhyrchir gan gorgoblynnod nyth bwytadwy.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Mergui Archipelago. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Medi 2022.