[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Rheilffordd y Great Western

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd y Great Western
Enghraifft o'r canlynolcwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1948 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1833 Edit this on Wikidata
Lled y cledrau2140 mm track gauge, 1435 mm Edit this on Wikidata
SylfaenyddIsambard Kingdom Brunel Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBristol and Exeter Railway, Buckfastleigh, Totnes and South Devon Railway, Rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth, Rheilffordd Festiniog a Blaenau, Llynvi and Ogmore Railway, Severn Bridge Railway, South Devon Railway, Taff Vale Railway, Torbay and Brixham Railway, Vale of Neath Railway, Gwendraeth Valleys Railway Edit this on Wikidata
OlynyddWestern Region of British Railways Edit this on Wikidata
PencadlysGorsaf reilffordd Paddington Llundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Locomotif rhif 3440 y GWR, City of Truro, a adeiladwyd ym 1903

Cysylltodd Rheilffordd y Great Western (yn Saesneg: Great Western Railway, GWR) Lundain â de-orllewin a chanolbarth Lloegr a rhan helaeth o Gymru.

Derbyniwyd deddf i greu rheilffordd rhwng Bryste a Llundain ar 31 Awst 1835. Prif beiriannydd y lein oedd Isambard Kingdom Brunel, a benodwyd ar 7 Mawrth 1833.[1]

Ar un adeg roedd cynllun i wneud cysylltiad â Rheilffordd Llundain a Birmingham yn neu ger y brifddinas ac i rannu Gorsaf Euston y cwmni hwnnw – ond penderfynwyd i beidio, yn rhannol oherwydd lled trac llydan (2,140 mm yn lle 1,435 mm) a ddewisodd Brunel i'r Great Western.[2]

Amcangyfrifwyd y byddai cost adeiladu'r lein yn dod yn £2,800,000. Dechreuodd y gwaith ym 1836, gan gynnwys Gorsaf reilffordd Paddington a Gorsaf reilffordd Temple Meads, Bryste a Gweithdy Swindon. Cwblhawyd y lein rhwng Paddington a Maidenhead ym Mai 1838. Roedd Brunel wedi archebu locomotifau gwan, ac roedd beirniadaeth hallt ohonynt, ac am led y traciau, ac roedd pwys ar Brunel i ymddiswyddo. Ond ar ôl ymdrechion cydweithiol gan Brunel a Daniel Gooch, daeth gwelliant sylweddol ym mherfformiad y locomotifau, a daeth sefyllfa Brunel yn gryfach[2]. Cwblhawyd yr holl lein rhwng Llundain a Bryste ym Mehefin 1841, yn costio £6,500,000. Roedd dadlau mawr am gost byrth ddrudfawr Twnnel Box. Mae'r twnnel yn 2 filltir o hyd ac yn gwbl syth. Ar 9 Ebrill - penblwydd Brunel - mae golau'r haul yn mynd o un pen y twnnel i'r llall[2]. Cwblhawyd Gweithdy Swindon ym 1843 ac erbyn 1848, roedd 250 milltir o drac lled 7 troedfedd yn lledaenu o Fryste.[3]

Isambard Kingdom Brunel

Achoswyd problemau gan led 7 troedfedd y cwmni cymharu â lled safonol rheilffyrdd eraill, a phasiwyd deddf ym 1946 yn erbyn adeiladu leiniau 7 troedfedd newydd.ond cyrhaeddwyd cyfaddawd yn caniatáu adeiladu leiniau tri chledren. Erbyn 1864, roedd gan y rheilffordd 594 milltir o cledrau 7 troedfedd, 406 milltir led safonol a 192 milltir o leiniau tri chledren..[3]

Crëwyd cymniau eraill, megis y Rheilffordd Bryste a Chaerwysg a Rheilffordd De Dyfnaint. Cynorthwyodd Brunel efo cynllunio eu lriniau, a daethont yn rhan Rheilffordd y Great Western.[4]

Crëwyd Cwmni Rheilffordd De Cymru ym 1844, ac roedd Brunel yn beirianydd iddynt. Agorwyd y lein hyd at Hwlffordd ar 28 Rhagfyr 1853, i Neyland ym 1856 ac Aberdaugleddau erbyn 1863. Daeth y rheilffordd yn rhan Rheilffordd y Great Western ym 2863. Agorwyd Rheilffordd Penfro a Dinbych y Pysgod ym 1863. Estynnwyd y lein hwyrach i Ddoc Penfro a Hendy-Gwyn. Adeiladwyd Rheilffordd Heol Arberth a Maenclochog rhwng 1873 a 1876 i wasanaethu Chwarel Rosebush. Adeiladwyd Rheilffordd Hendy-Gwyn ac Aberteifi rhwng 1869 a 1873, a Rheilffordd Rosebush ac Abergwaun rhwng 1878 a 1895.[5]

Bu farw Brunel ar 15 Medi 1859.

Locomotif Collett 0-6-0PT Dosbarth 64xx

Roedd Daniel Gooch yn Brif Oruchwyliwr Locomotifau rhwng 1837 a 1864 a chadeirydd y cwmni rhwng 1865 a 1889. Daeth [[Joseph Armstrong yn Brif Oruchwyliwr ym 1864. Bu farw Armstrong ym 1877, a chymerodd William Dean drosodd. Ym 1877 roedd 1536 milltir lled safonol, 275 milltir lled eang a 274 milltir o leiniau tri chledren. Erbyn 1885 roedd gwerth y cwmni £90,000,000 a roedd ganddo 1600 o locomotifau a 48,000 o gerbydau eraill. Rhwng 1860 a 1892, newidiwyd y leiniau lled eang i led safonol.[6]

Adeiladwyd Twnnel Hafren rhwng 1873 a 1886, pedair milltir a hanner o hyd, yn costio bron £2,000,000.[3]

Erbyn dechrau'r 20fed ganrif cyrhaeddwyd Penzance, Henffordd, Blaenau Ffestiniog, Aberystwyth, Wrecsam a Chaer ymysg llefydd eraill.[7]. Pasiwyd Deddf Rheilffyrdd ym 1923, a daeth rheilffyrdd Prydein yn un; roedd y Great Western yn un ohonynt, yn cynnwys rhai o reilffyrdd llai yng Nghymru a De orllewin Lloegr. Roedd Rheilffordd y Cambrian yn un ohonynt.

Gwladolwyd y rheilffyrdd ym 1948, a daeth y Great Western yn Adran Orllewinol Rheilffyrdd Prydeinig hyd at 1992..[6]

Peirianyddion

[golygu | golygu cod]
Locomotif Collett 'Foxcote Manor' yn gadael Llangollen

Goruwchwilwyr locomotifau

[golygu | golygu cod]

Prif Beirianyddion Mecanyddol

[golygu | golygu cod]

Goruwchwilwyr locomotifau'r Gogledd

[golygu | golygu cod]

Llongau

[golygu | golygu cod]

Cynlluniwyd Brunel llongau ar gyfer y cwmni hefyd. Lansiwyd y Great Western ym 1837 ac yn hwyrach Great Britain a Great Eastern.[3]

Er mwyn osgoi talu prisiau uchel am glo, sefydlodd y rheilffordd lofa ym Mlaenafon ym Mai 1878.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan ikbrunel.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-20. Cyrchwyd 2016-04-24.
  2. 2.0 2.1 2.2 The Great Western Railway in the 19th Century gan OS Nock
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Tudalen hanes ar wefan The Great Western Archive
  4. gwefan mike'shistory
  5. Taflen Cyngor Sir Benfro: 'Railways of Pembrokeshire'
  6. 6.0 6.1 "Gwefan Network Rail". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-22. Cyrchwyd 2016-04-24.
  7. British Railways pre-Grouping Atlas a Gazetter

Y rheilffordd yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Y reilffordd yn Lloegr

[golygu | golygu cod]