[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Gemau Olympaidd Modern

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gemau Olympaidd yr Haf)
Gemau Olympaidd Modern
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathcystadleuaeth rhyngwladol, digwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1896 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Henfyd Edit this on Wikidata
Lleoliadlleoliad y gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Digwyddiad cystadleuol aml-chwaraeon yw'r Gemau Olympaidd Modern.[1] Cânt eu rhannu yn emau Haf a gemau Gaeaf, a chânt eu cynnal pob pedair mlynedd (sef cyfnod yr Olympiad[2]). Cynhaliwyd y gemau cyntaf yn 1896 yn Athen, Gwlad Groeg. Cynhaliwyd hwy yr un flwyddyn hyd 1992, ond ers hynny maent yn cael eu cynnal dyflwydd ar wahân.

Recorwyd y Gemau Olympaidd gwreiddiol (Groegaidd: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones) yn 776 CC am y tro cyntaf, yn Olympia, Groeg, a dathlwyd hwy hyd 393.[3] Dangoswyd diddordeb mewn adfywio'r gemau am y tro cyntaf gan y golygydd papur newydd a'r bardd Panagiotis Soutsos yn ei bennill "Dialogue of the Dead" yn 1833.[4] Fe noddodd Evangelos Zappas y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Modern rhyngwladol cyntaf yn 1859. Fe ariannodd hefyd adnewyddiad y Panathinaiko Stadium ar gyfer cynnal y gemau yno yn 1870 ac 1875.[4] Nodwyd hyn mewn cyhoeddiadau a phapurau newydd ar draws y byd, gan gynnyws y London Review, a ddywedodd "the Olympian Games, discontinued for centuries, have recently been revived! Here is strange news indeed ... the classical games of antiquity were revived near Athens".[5]

Sefydlwyd Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd (PRhO) yn 1894, ar symbyliad y bonheddwr Ffrengig, Pierre Frédy, Baron de Coubertin. Y gemau cyntaf i gael eu trefnu gan y PRhO oedd Gemau Olympaidd 1896, yn Athen, Groeg. Cynyddodd cyfranogaeth y Gemau Olympaidd i gynnwys athletwyr o bron pob gwlad ar draws y byd, oddigerth i Gymu a'r Alban! Gyda gwelliant yng nghyfathrebu lloerenol a darllediadau byd-eang ar y teledu, mae'r gemau'n ennill cefnogaeth yn gyson.[6] Y gemau diweddaraf oedd 2004 yn Athen, a'r gemau gaeafol diweddaraf oedd Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2006 yn Torino. Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing. bydd 302 o gystadleuau mewn 28 o chwaraeon Olympaidd.[7] Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys 84 cystadleuaeth mewn 7 o chwaraeon Olympiadd ers 2006.[8]

Y 5 Cylch

Mabwysiadwyd y logo yn 1914 ac ymddangosont yn y gemau amy tro cyntaf yn 1920.

Baron de Coubertin a luniodd y 5 Cylch yn symbol o'r gemau. Mae'r 5 cylch yma'n cyrychioli prif gyfandiroedd y byd sef Asia, Ewrop, Affrica, Amerig ac Oceania.

Cystadlu'n deg

Ar ddechrau pob gemau Olympaidd bydd y cystadleuwyr yn cymryd llw i gystadlu'n deg ac i gadw at yr holl reolau. Mae un cystadleuydd o'r wlad lle cynhelir y gemau yn darllen y llw ar ran gweddill y cystadleuwyr. Gŵr o'r enw Baron de Coubertin, sef sylfaenydd y gemau modern, ysgrifennodd y llw a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1920.

Amaturiaeth

[golygu | golygu cod]

Datblygodd y syniad o amaturiaeth yn y 19g yn Lloegr fel ffordd o atal y dosbarth gweithiol rhag cystadlu yn erbyn y byddigion. Gallai'r byddigion gymryd rhan mewn chwaraeon heb boeni am ennill bywoliaeth. Nid felly y werin. Byddent yn treulio amser yn ymarfer ac yn dod yn broffesiynol pe baent yn derbyn arian am berfformio. Dros y blynyddoedd newidiwyd y diffiniad o 'amaturiaeth'.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Olympic Games. International Olympic Committee.
  2. "Introduction - The Summer Games and Winter Games", The Modern Olympic Games (PDF), International Olympic Committee, tud. tud. 2. URL
  3.  Ancient Olympic Games. Microsoft Corporation.
  4. 4.0 4.1 David C. Young, The Modern Olympics: A Struggle for Revival (Johns Hopkins University Press, 1996), ISBN 0-8018-5374-5
  5. London Review, Medi 15, 1860.
  6.  Olympic Games - Recent Developments. Microsoft® Encarta® Online Encyclopedia 2006. Microsoft Corporation (1997-2006).
  7.  Beijing 2008: Games Programme Finalised. International Olympic Committee (27 Maerth 2006).
  8.  Turin 2006. International Olympic Committee.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]