[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Cynhaliwyd 3–10 Awst 2024
Archdderwydd Mererid Hopwood
Daliwr y cleddyf Robin McBryde
Cadeirydd Helen Prosser
Llywydd Cennard Davies
Enillydd y Goron Gwynfor Dafydd
Enillydd y Gadair Carwyn Eckley
Gwobr Daniel Owen Neb yn deilwng
Gwobr Goffa David Ellis Elis Jones
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Nest Jenkins
Gwobr Goffa Osborne Roberts Manon Ogwen Parry
Gwobr Richard Burton Owain Siôn
Y Fedal Ryddiaith Eurgain Haf
Medal T.H. Parry-Williams Penri Roberts a Linda Gittins[1]
Y Fedal Ddrama Ataliwyd y gystadleuaeth
Dysgwr y Flwyddyn Antwn Owen-Hicks
Tlws y Cerddor Nathan James Dearden
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Owain Rowlands
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Angharad Pearce[2]
Medal Aur am Grefft a Dylunio Laura Thomas[3]
Gwobr Tony Goble Ieuan Lewis[4]
Gwobr Ifor Davies Meinir Mathias ac Esyllt Lewis[5]
Gwobr Dewis y Bobl Anthony Evans[6]
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Elena Grace[7]
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Studio Brassica[8]
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Rhodri Jones[9]
Gwefan eisteddfod.cymru/yrwyl/2024

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 - 10 Awst 2024. Hwn oedd Eisteddfod gyntaf yr Archdderwydd Mererid Hopwood. Hwn oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei gynnal ym Mhontypridd ers 1893.[10]

Llywydd yr ŵyl oedd Cennard Davies, athro a dreuliodd ddegawdau yn dysgu Cymraeg i oedolion.[11] Gwahoddwyd chwech o hoelion wyth yr ardal i dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus, am eu "cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol". Y chwech oedd Eirlys Britton, Wil Morus Jones, Susan Jenkins, Geraint Davies, Menna Thomas a Martyn Geraint.[12]

Cyhoeddwyd fod y gronfa leol wedi codi £332,000 ar gyfer yr ŵyl. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, eu bod "wedi cyrraedd eu targed ariannol a mwy". Darparodd Llywodraeth Cymru £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn darparu tocynnau am ddim i unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is yn ardal Rhondda Cynon Taf.[13]

Cyngherddau

[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda'r sioe gerdd 'Nia Ben Aur', sy'n seiliedig ar chwedl Wyddelig. Cafodd yr opera roc gyntaf hwn ei berfformio yn y Gymraeg union hanner can mlynedd yn ôl. Mae'r sioe wedi ei ddiweddaru gyda sgript gan Fardd Plant Cymru, Nia Morais gyda threfniannau cerddorol newydd gan Patrick Rimes a Sam Humphreys a’i ail-ddychmygu gan y Cyfarwyddwr Angharad Lee. Roedd y perfformiad yn cynnwys trefniannau corawl gan Richard Vaughan a fydd yn cael eu perfformio gan gôr yr Eisteddfod. Roedd Afon Dance, grŵp dawnsio cymunedol lleol a dawnswyr yn ymuno gyda'r dawnswyr Gwyddelig, Nicola Kilmurry, o Ddulyn a Tadhg Quigley Brennan, o Donegal (trwy Six Collective).[14]

Y Maes

[golygu | golygu cod]

Yn Awst 2023 cyhoeddwyd mai Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd fyddai cartref yr Eisteddfod.[15] (51°36′06″N 3°20′13″W / 51.601580°N 3.336867°W / 51.601580; -3.336867) Gosodwyd pabellau a stondinau yr Eisteddfod ymysg adnoddau arferol y Parc. Defnyddiwyd theatr Y Muni ym Mhontypridd fel lleoliad i rowndiau cynderfynol a chyngerddau gyda'r nos.[16]

Roedd Maes B yn cael ei gynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd Pontypridd a roedd y maes Carafanau a gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch. Mae Llwybr Tâf yn cysylltu y tri lleoliad.[17] Roedd y ganolfan groeso a swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd a maes parcio hygyrch ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin. Defnyddiwyd tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.[18]

Prif gystadlaethau

[golygu | golygu cod]

Y Gadair

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Gadair oedd Carwyn Eckley (ffugenw "Brynmair"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Aneirin Karadog, ar ran ei gyd-feirniaid Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Cadwyn. Roedd hon yn gystadleuaeth agos iawn, gydag un o’r beirniaid yn ffafrio cadeirio ymgeisydd arall.

Dywedodd Aneirin Karadog "Mae’r golled, a’r ymgiprys â cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod â phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwysáu drwy ganu moel y cerddi hyn a’r absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull." Yn ei feirniadaeth dywed Huw Meirion Edwards: “Ymateb y mae’r bardd i’r profiad dirdynnol o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc". Ychwanegodd Dylan Foster Evans: “Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”[19]

Noddwyd y Gadair a'r wobr ariannol gan Ysgol Llanhari wrth i'r sefydliad ddathlu 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn y sir. Dyluniwyd y Gadair gan Berian Daniel a fu'n cydweithio gyda disgyblion ysgol Gymraeg lleol i gael ysbrydoliaeth. Daw'r derw'r gadair o goeden hynafol fu'n tyfu ger cartre’ Iolo Morganwg yn y Bontfaen ac mae'r cynllun hefyd yn cynnwys glo a haearn i adlewyrchu hen ddiwydiant yr ardal.[20]

Y Goron

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Goron oedd Gwynfor Dafydd o Donyrefail (ffugenw "Samsa"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Tudur Dylan Jones ar ran ei gyd-feirniaid Guto Dafydd ac Elinor Gwynn. Cystadlodd 47 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Atgof. Yn ei feirniadaeth, dywedodd Tudur Dylan "Mae hanes y cymoedd yn gymhleth gyfoethog, ac adleisir y cyfoeth a’r cymhlethdod yn ymateb y bardd i’r ardal a’i phobl. Nid moliant unllygeidiog sydd yma – yn hytrach, ei dweud hi fel y mae, yn ddi-flewyn-ar-dafod o onest.”[21]

Noddwyd y Goron a'r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Garth Olwg. Dyluniwyd y Goron a chynhyrchwyd gan Elan Rhys Rowlands o Gaernarfon. Yn 23 mlwydd oed hi yw un o'r ieuengaf erioed i wneud hynny. Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar ôl dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths, Bae Caerdydd.[22]

Gwobr Goffa Daniel Owen

[golygu | golygu cod]

Roedd neb yn deilwng o'r wobr eleni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Jerry Hunter, ar ran ei gyd-feirniaid Catrin Beard a Marlyn Samuel. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000.

Dim ond 5 ymgais a gafwyd ar y gystadleuaeth eleni ond dywedodd y beirniaid nad oedd yr un ohonyn nhw yn barod i’w cyhoeddi. Yn y feirniadaeth dywedyd "Ymddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml. Er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae’n afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn". Ychwanegodd Catrin Beard "“Os yw ein prif ŵyl lenyddol am anrhydeddu nofel gyda gwobr ariannol hael a chlod cynulleidfa’r pafiliwn, mae’n deg bod y disgwyliadau’n uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw’n uwch fyth"[23]

Y Fedal Ryddiaith

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Fedal oedd Eurgain Haf o Bontypridd gyda'i nofel Y Morfarch Arian dan y ffugenw "Manaia". Dywedodd John Roberts yn ei feirniadaeth: “Mae gan Manaia allu i ysgrifennu yn gynnil ond lliwgar a bywiog, ac mae’r cymeriadau yn grwn ac yn gyfan. Manaia sy’n dod i’r brig a’r ddwy nofel arall yn dynn ar ei sodlau.”

Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Newid". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.

Thraddodwyd y feirniadaeth gan Annes Glynn, ar ran ei chyd-feirniaid John Roberts ac Elen Ifan.[24]

Y Fedal Ddrama

[golygu | golygu cod]

Nid oedd seremoni ar gyfer Fedal Ddrama eleni. Ar brynhawn Iau, cyhoeddodd yr Eisteddfod fod y gystadleuaeth wedi ei atal am eleni. Daeth y penderfyniad ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth.[25] Roedd sïon ar hyd a lled y Maes yn damcaniaethu am y rheswm a chafwyd beirniadaeth gan lawer am nad oedd eglurhad pellach gan yr Eisteddfod.[26]

Canlyniadau cystadlaethau

[golygu | golygu cod]

Bandiau Pres

[golygu | golygu cod]

101. Bandiau pres Pencampwriaeth, dosbarth 1 1. Band Pres Cwm Ebwy - Glynebwy 2. Band Tylorstown - Pendyrus 3. Band Parc a Dare - Treorci

102. Bandiau pres dosbarth 2 a 3 1. Band Pres Bwrdeistref Casnewydd - Casnewydd 2. Seindorf Arian Rhydaman - Rhydaman 3. Band Markham a'r Cylch - Abertawe

103. Bandiau pres dosbarth 4 1. Band Porthaethwy - Bangor

104. Bandiau pres ieuenctid 1. Band Ieuenctid De Cymru 2. Seindorf Ieuenctid Beaumaris - Ynys Môn

Cerdd Dant

[golygu | golygu cod]

151. Côr cerdd dant 1. Lleisiau Tywi — Llandeilo 2. Merched Ystum Taf — Caerdydd 3. Côr Tônteg — Pentre'r Eglwys

152. Parti cerdd dant agored 1. Parti'r Ddinas — Caerdydd 2. Parti’r Cwm — Bala 3. Lodesi Dyfi — Bro Ddyfi

153. Parti cerdd dant o dan 25 oed 1. Ysgol Glanaethwy - Bangor 2. Bro Taf - Caerdydd

154. Triawd neu bedwarawd cerdd dant 1. Ceri, Ruth a Siriol 2. Triawd Myrddin 3. Lodesi Dyfi

155. Deuawd cerdd dant 16 oed a throsodd 1. Ruth a Siriol — Abergele a Chaerdydd 2. Gavin ac Osian — Pontypridd 3. Branwen a Hanna — Llanbedr Dyffryn Clwyd

156. Deuawd cerdd dant o dan 16 oed 1. Beca ac Awen — Yr Wyddgrug 2. Elen Dafydd Roberts a Jini Grug Dobson — Caerdydd 3. Olivia Davies ac Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder

157. Gwobr Aled Lloyd Davies 1. Martha Harris — Llandeilo 2. Sophie Jones — Cwm Senni 3. Ruth Erin Roberts — Caerdydd

158. Unawd cerdd dant 16 ac o dan 21 oed 1. Gwenan Mars — Dinbych 2. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 3. Elain Rhys — Trawsfynydd

159. Unawd cerdd dant 12 ac o dan 16 oed 1. Gwenno Llwyd Beech — Llanllechid 2. Cian Glyn — Yr Eglwys Newydd 3. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder

160. Unawd cerdd dant o dan 12 oed 1. Jini-Grug Dobson - Caerdydd 2. Elen Dafydd Roberts - Caerdydd 3. Morus Charles - Caerdydd

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

201. Côr agored 1. ABC - Caerdydd 2. Ysgol Glanaethwy - Bangor 3. Côr CF1 - Caerdydd

202. Côr cymysg 1. Côr CF1 — Caerdydd 2. Côrdydd — Caerdydd 3. Côr Llanddarog — Llanddarog

203. Côr lleisiau tenor 1. Risca Male Choir — Risca, Casnewydd 2. Côr Tadau Trisant — Llantrisant, Meisgyn a Phontyclun 3. Côr Meibion Llangwm — Corwen

204. Côr lleisiau soprano / alto 1. Côr Merched Cwm Rhondda — Treorci 2. Merched Soar — Llanbedr Pont Steffan 3. Ysgol Glanaethwy — Bangor

205. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Hen Nodiant — Caerdydd 2. Encôr — Porthaethwy 3. Côr Nefi Blws — Caerdydd

206. Côr ieuenctid o dan 25 oed 1. Côr Heol Y March 2. Merched Plastaf 3. Côr y Cwm

207. Cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Caerdydd 2. Côr Eifionydd 3. Côr Y Gleision

208. Côr newydd i’r Eisteddfod 1. Côr Taflais - Caerdydd 2. Côr Bryn Owain - Y Bont-faen, Bro Morgannwg 3. Côr Cyfeillion Melin Gruffydd - Caerdydd

209. Y gân Gymraeg orau 1. Ysgol Glanaethwy - Beth yw'r Haf i Mi?

210. Tlws Sioned James, Arweinydd Corawl yr Ŵyl 1. Eleri Roberts

211. Côr yr Ŵyl 1. Côr Caerdydd

221. Ensemble lleisiol rhwng 3 a 6 mewn nifer 1. Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg — Y Barri 2. Merched Mela — Pwllheli 3. Criw C.Ô.R — Caerffili

231. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. Owain Rowlands — Llandeilo 2. Scarlett Jones — Llundain 3. Manon Ogwen Parry — Penarth 4. Twm Tegid — Treffynnon

232. Unawd soprano 25 oed a throsodd 1. Bethan Elin — Ynys Môn 2. Joy Cornock — Talyllychau 3. Yingzi Song — Caerdydd

233. Unawd mezzo | contralto | gwrth-denor 25 oed a throsodd 1. Erin Fflur — Y Felinheli 2. Gerallt Rhys Jones — Machynlleth 3. Heledd Mair Besent — Llanbedr Pont Steffan

234. Unawd tenor 25 oed a throsodd 1. Elis Jones — Rhuthun 2. Aled Wyn Thomas — Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan 3. Arfon Rhys Griffiths — Llanuwchllyn

235. Unawd bariton | bas 25 oed a throsodd 1. Kees Huysmans — Llanbedr Pont Steffan 2. Barry Nudd Powell — Llanfihangel y Creuddyn 3. Richard Rees — Machynlleth

237. Canu emyn | cân o fawl 1. Joy Cornock - Talyllychau 2. Marianne Jones Powell - Llandre, Ceredigion 3. David Maybury – Maesteg

238. Ar ei newydd wedd - dehongliad newydd o gân werin draddodiadol 1. Iestyn Gwyn Jones - Creigiau, Caerdydd 2. Jennie Williams - Tonyrefail 3. Morgan a Catrin - Ysgol Garth Olwg, Pontypridd

239. Unawd Gymraeg | Hen Ganiadau 1. Richard Rees - Machynlleth 2. Arfon Rhys Griffiths - Llanuwchllyn 3. Bethan Elin - Ynys Môn

240. Unawd soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Manon Ogwen Parry — Penarth 2. Caitlin Hockley — Caerdydd 3. Scarlett Jones — Llundain

241. Unawd mezzo / contralto / gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed 1. Elen Wyn — Caerdydd 2. Erin Thomas — Caerdydd

242. Unawd tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Elis Garmon Jones — Y Bala 2. Rhys Archer — Y Fflint 3. Cai Fôn Davies — Bangor

243. Unawd bariton / bas 19 ac o dan 25 oed 1. Tomos Heddwyn Griffiths — Trawsfynydd 2. Owain Rowlands — Llandeilo 3. Daniel O’Callaghan — Pwll Trap

245. Unawd allan o sioe gerdd 19 oed a throsodd 1. Rachel Stephens — Treherbert 2. Elis Myers-Sleight — Merthyr Tydfil 3. Lauren Elizabeth Williams — Castell-nedd

246. Ysgoloriaeth goffa Wilbert Lloyd Roberts 1. Elis Myers-Sleight — Merthyr Tydfil

247. Unawd allan o sioe gerdd o dan 19 oed 1. Leusa Francis — Caernarfon 2. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 3. Poppy Mohammad — Caerdydd

248. Unawd 16 ac o dan 19 oed 1. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 2. Georgia Williams — Rhuthun 3. Guto Jenkins — Llanfihangel-ar-Arth

249. Unawd 12 ac o dan 16 oed 1. Beca Hogg — Yr Wyddgrug 2. Gethin Williams — Caerdydd 3. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder

250. Unawd o dan 12 oed 1. Leisa Gwen Roberts - Y Bontfaen 2. Elen Dafydd Roberts - Caerdydd 3. Beca Grug Morris - Caerfyrddin

262. Grŵp offerynnol 1. Lefi Dafydd a Jencyn Corp - Ysgol Bro Preseli 2. Heledd a Remy - Treganna 3. TwmpDaith - O bedwar ban Cymru

263. Rhuban Glas offerynnol 19 oed a throsodd 1. Tomos Boyles — Treganna 2. Owen Putter — Cardiff 3. Isabelle Harris — Pontypridd

264. Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Brandon Luke Edwards — Y Fali 2. Alwena Mair Owen — Llanllwni 3. Lisa Morgan — Bangor

265. Rhuban Glas offerynnol o dan 16 oed 1. Owen Rhys Frohawk - Caerdydd 2. Gwenan Dickenson - Y Fenni 3. Edryd Ifan Collins - Caerdydd

301. Tlws coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Talog — Caerfyrddin 2. Dawnswyr Nantgarw — Caerdydd 3. Dawnswyr Ysgafndroed — Caerdydd

302. Parti dawnsio gwerin o dan 25 oed 1. Dawnswyr Talog - Caerfyrddin 2. Bro Taf - Caerdydd 3. Ysgol Plasmawr - Caerdydd

303. Dawns stepio i grŵp 1. Dawnswyr Nantgarw — Caerdydd 2. Cywion Cowin — Caerfyrddin 3. Ysgol Hafodwenog — Caerfyrddin

304. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Dawnswyr Talog — Caerfyrddin

305. Deuawd, triawd neu bedwarawd stepio 1. Daniel a Morus - Creigiau, Caerdydd 2. Erin a Caian - Blaenycoed 3. Elwyn a Ioan – Caerdydd

306. Dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol i fechgyn 1. Daniel Calan Jones — Creigiau, Caerdydd 2. Morus Caradog Jones — Creigiau, Caerdydd 3. Caian Wyn Evans — Porthyrhyd

307. Dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol i ferched 1. Elen Morlais Williams — Caerdydd 2. Gwennan Heledd Staziker — Caerdydd 3. Lleucu Parri — Caerdydd

310. Parti o ddawnswyr cymdeithasol 1. Ysgol Llanhari

351. Dawns i grŵp dros 4 mewn nifer 1. Commander - Dimensions Performance Academy - Pontypridd 2. Hudoliaeth — Clwb Dawns Hudoliaeth 3. Uchelgais — Rhydaman

352. Dawns i bâr/triawd/pedwarawd 1. Cerys, Ebony a Cadi — Rhydaman 2. Awen ac Alaw — Caerdydd 3. Celyn, Lillie, Alys a Belle — Rhydaman

353. Dawns unigol 12 oed a throsodd 1. Mairwen Thomas — Penarth 2. Rocco — Pontypridd 3. Nel Sian Parry — Caernarfon

354. Dawns unigol o dan 12 oed 1. Lal Prydderch Ifan - Caergybi 2. Isabelle Davies - Rhydaman 3. Lillie Morgan - Rhydaman

355. Dawns gelf / greadigol / gyfoes / ballet i grŵp dros 4 mewn nifer 1. Flood - Dimensions Performance Academy - Pontypridd 2. GFiyah - Llanilltud Fardre 3. Uchelgais - Rhydaman

Gwerin

[golygu | golygu cod]

401. Côr alaw werin 1. Côr Esgeifiog — Gaerwen 2. Côr Merched Canna — Caerdydd 3. Côr Godre'r Garth — Rhondda Cynon Taf

402. Parti alaw werin 1. Eryrod Meirion — Llanuwchllyn 2. Parti'r Ddinas — Caerdydd 3. Lodesi Dyfi — Bro Ddyfi

403. Parti Alaw Werin o dan 25 oed 1. Ysgol Glanaethwy - Bangor 2. Merched Plastaf - Caerdydd 3. Ysgol Garth Olwg - Pentre'r Eglwys

404. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 1. Cadi Mars Jones — Llandderfel 2. Llio Meirion — Rhuthun 3. Siriol Elin — Abergele

405. Unawd alaw werin 16 ac o dan 21 oed 1. Celyn Richards — Sanclêr 2. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 3. Fflur Erin Edwards — Llanfairpwllgwyngyll

406. Unawd alaw werin 12 ac o dan 16 oed 1. Awen Hogg — Yr Wyddgrug 2. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder 3. Tesni Thomas — Abergele

407. Unawd alaw werin o dan 12 oed 1. Morus Charles - Caerdydd 2. Greta Ann Jones - Caerfyrddin 3. Nanw Melangell Griffiths-Jones - Llanybydder

Llefaru

[golygu | golygu cod]

601. Côr llefaru 1. Côr Sarn Helen — Llanbedr Pont Steffan 2. Côr Merched Tawe — Abertawe 3. Côr Llefaru Cwm Rhondda — Treorci, Rhondda

602. Parti llefaru hyd at 16 mewn nifer 1. Gens y Gen — Caerdydd 2. Merched y Felin — Caerdydd 3. Parti Man a Man — Llanbedr Pont Steffan

605. Gwobr goffa Gwyneth Morus Jones – Rhuban Glas ieuenctid – Llefaru unigol 16 ac o dan 21 oed 1. Mari Elin Prys — Porthaethwy 2. Alwena Mair Owen — Llanllwni 3. Erin Llwyd — Corwen

606. Llefaru unigol 12 ac o dan 16 oed 1. Cadi Elis Roberts — Caernarfon 2. Gwenno Llwyd Beech — Llanllechid 3. Gruffudd Llwyd Beech — Llanllechid

607. Llefaru unigol o dan 12 oed 1. Celyn Davies - Castellnewydd Emlyn 2. Efa Medi - Llandysul 3. Elysteg Emyr - Henllan

608. Llefaru o’r Ysgrythur: agored 1. Cai Fôn Davies - Bangor 2. Lisa Jones - Llanelli 3. Daniel O’Callaghan - Pwll Trap

609. Mewn Cymeriad 1. Daniel O’Callaghan - Pwll Trap

Theatr

[golygu | golygu cod]

905. Deialog – rhwng 2 a 4 mewn nifer 1. Kellie-Gwen ac Elis - Caerdydd 2. Swyn Efa Tomos ac Ela Mablen Griffiths-Jones - Llanybydder 3. Ceuron a Ania - Ynys Môn

906. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Alis Tomos — Caernarfon 2. Ela Williams — Crosshands 3. Courtney Olwen Manel — Llundain

907. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Mari Fflur Thomas — Caerdydd 2. Begw Elain Roberts — Caernarfon 3. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder

Maes D

[golygu | golygu cod]

802. Côr dysgwyr 1. Côr Dysgwyr y Cymoedd — Pontypridd 2. Dysg-Gôr — Caerdydd 3. Côr Dysgwyr ABA — Abertawe

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Anrhydeddir y canlynol a'u croesawyd i Orsedd y Beirdd:

Gwyrdd

[golygu | golygu cod]
  • Anne England
  • Nerys Howell
  • Angharad Lee
  • Elin Llywelyn-Williams
  • Catrin Rowlands
  • Derrick Rowlands
  • Mari Morgan
  • Shân Eleri Passmore
  • Siwan Rosser
  • Peter Spriggs
  • Llinos Swain
  • Meilyr Hedd Tomos
  • Gareth Williams
  • Siân Rhiannon Williams
  • Delyth Badder
  • Carol Bell
  • Jamie Bevan
  • Dafydd Trystan Davies
  • Geraint Davies
  • Michelle Davies
  • Joseff Gnagbo
  • Margot Ann Phillips Griffith
  • Gill Griffiths
  • Rosa Hunt
  • Awen Iorwerth
  • Gethin Lloyd James
  • Theresa Mgadzah Jones
  • David Lloyd-Jones
  • Ian Wyn Rees
  • Rhuanedd Richards
  • David Roberts
  • Elfed Roberts
  • Elinor Snowsill
  • Derec Stockley
  • Hazel Thomas
  • John Thomas
  • Mark Vaughan
  • Ynyr Williams

Tu allan i Gymru

[golygu | golygu cod]
  • Megan Williams (glas)
  • Simon Chandler (gwyrdd)[27]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Medal Goffa Syr TH Parry-Williams i sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn". BBC Cymru Fyw. 2024-07-25. Cyrchwyd 2024-07-26.
  2. "Angharad Pearce Jones yn ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
  3. "Laura Thomas yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
  4. "Y Lle Celf - Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
  5. "Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
  6. "Y Lle Celf - Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-19.
  7. "Elena Grace yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
  8. "Studio Brassica'n ennill Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
  9. "Dr Rhodri Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-07-22. Cyrchwyd 2024-07-22.
  10. "'Cyfle unwaith mewn oes': Pobl Pontypridd yn harddu'r ardal". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-05.
  11. "Cennard Davies yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-06-10. Cyrchwyd 2024-06-10.
  12. "Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-04.
  13. "Steddfod 2024: Y gronfa leol "wedi cyrraedd ei tharged ariannol"". BBC Cymru Fyw. 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-03.
  14. "Nia Ben Aur yn plethu perthynas fodern rhwng Cymru ac Iwerddon | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
  15. "Pontypridd i lwyfannu Eisteddfod drefol yn 2024". BBC Cymru Fyw. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.
  16. "Y Muni | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-04.
  17. "Lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-03-06.
  18. "Rhyddhau cynlluniau lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024". www.rctcbc.gov.uk. Cyrchwyd 2024-03-06.
  19. "Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-09.
  20. "Dadorchuddio Cadair a Choron Prifwyl Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-06-13. Cyrchwyd 2024-06-15.
  21. "Gwynfor Dafydd yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-05.
  22. "Dylunio Coron yr Eisteddfod yn 23 oed yn 'freuddwyd'". BBC Cymru Fyw. 2024-06-15. Cyrchwyd 2024-06-15.
  23. "Roedd "siom" ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cy". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-06. Cyrchwyd 2024-08-06.
  24. "Eurgain Haf yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-07. Cyrchwyd 2024-08-07.
  25. "Canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-08. Cyrchwyd 2024-08-08.
  26. "Canslo'r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad gan yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-10.
  27. "Anrhydeddau'r Orsedd 2024: Y de". BBC Cymru Fyw. 2024-05-20. Cyrchwyd 2024-05-24.