[go: nahoru, domu]

Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025
 ← Blaenorol
Cynhaliwyd 2–9 Awst 2025
Archdderwydd Mererid Hopwood
Cadeirydd Llinos Roberts
Gwefan eisteddfod.cymru/yrwyl/2025

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025 yn Wrecsam rhwng Awst 2-9, 2025.

Yng Ngorffennaf 2022, cytunodd cynghorwyr Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 i'r sir.[1] Ar 1 Awst 2023 cyhoeddwyd y bydd Wrecsam yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025. Cyhoeddwyd y brifwyl yn ffurfiol ar 27 Ebrill 2024 pan wnaeth 300 o grwpiau ac unigolion orymdeithio o Gampws Iâl, Coleg Cambria i'r seremoni yn neuadd y ddinas yn Wrecsam.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yw Llinos Roberts, gwraig y diweddar Aled Roberts. Ers 2013 mae'n bennaeth cyfathrebu corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria.[2]

Y Maes

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd yr ŵyl ddiwethaf yn yr ardal yn 2011, ar dir amaethyddol i’r gorllewin o ganol y ddinas, ac mae trafodaethau’n parhau rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor ynglŷn â’i hunion leoliad yn 2025.[3].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 , BBC Cymru Fyw, 12 Gorffennnaf 2022. Cyrchwyd ar 14 Awst 2023.
  2. "Llinos Roberts yw Cadeirydd Eisteddfod Wrecsam 2025". BBC Cymru Fyw. 2023-11-20. Cyrchwyd 2024-08-10.
  3. "Eisteddfod 2025 i'w chynnal yn Wrecsam". Eisteddfod Genedlaethol. 2023-08-01. Cyrchwyd 2023-08-14.