Volvo Personvagnar
Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
Math o fusnes | Aktiebolag |
Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 14 Ebrill 1927 |
Cadeirydd | Li Shufu |
Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance |
Pencadlys | Göteborg |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | car |
Refeniw | 330,145,000,000 krona (2022) |
Incwm gweithredol | 22,332,000,000 krona (2022) |
Cyfanswm yr asedau | 330,924,000,000 krona (31 Rhagfyr 2022) |
Perchnogion | Geely (78.7%) |
Nifer a gyflogir | 28,485 (2015) |
Rhiant-gwmni | Geely |
Lle ffurfio | Göteborg |
Gwefan | https://www.volvocars.com/, https://www.volvocars.com/us, https://www.volvocars.com/de, https://www.volvocars.com/intl, https://www.volvocars.com/es/, https://volvocars-concessions.com/ |
- Mae'r erthygl hon yn sôn am y cwmni ceir; am y cwmni gwreiddiol AB Volvo, sy'n dal i gynhyrchu peiriannau trwm, gweler AB Volvo.
Cwmni o Sweden sy'n cynhyrchu ceir moethus yw Corfforaeth Ceir Volvo (a elwir fel arfer yn VOLVO; Swedeg: Volvo Personvagnar neu'n rhyngwladol: Volvo Cars). Un o'u ceir diweddaraf yw'r XC90.
Mae ei bencadlys yn adeilad VAK yn Gothenburg, Sweden, lle sefydlwyd y cwmni yn 1927.[1] Is-gwmni ydyw, a'i berchennog, neu'r fam-gwmni yw Zhejiang Geely Holding Group o Tsieina.
Sefydlwyd y cwmni yn 1915 fel un o isgwmniau SFK, cwmni gwneud peli meteal (ball bearings). Ond mae'r ddau gwmni (Volvo Group a Volvo Cars) yn nodi'r dyddiad 14 Ebrill 1927 fel y dyddiad swyddogol, gan mai ar y dydd hwn y rhowliodd y car cyntaf o linell cynhyrchu'r ffatri yn Hisingen, Gothenburg.[2] Mae'r adeilad yn dal yno (57°42′50″N 11°55′19″E / 57.71389°N 11.92194°E).
Ystyr Volvo ydy "Dw i'n rholio" yn Lladin, gan gyfeirio at y peli bach metal roedd y cwmni yn ei gynhyrchu. Cofrestrwyd yr enw 'Volvo' yn wreiddiol ar gyfer brand newydd o beli bach, ond defnyddiwyd 'SKF' yn y diwedd.
Yn 1924 cytunodd dau ddyn: Assar Gabrielsson, un o reolwyr gwerthiant SKF a'r peiriannydd Gustav Larson, i gynhyrchu car Swedaidd a fyddai'n addas ar gyfer ffyrdd ac amgylchedd oer y wlad.[3] Wedi cyfnod o flwyddyn o arbrofi gyda deg prototeip, cychwynwyd cynhyrchu car o fewn y cwmni SKF. Cofrestwryd yr isgwmni AB Volvo ar Gyfnewidfa Stoc Stockholm yn 1935 a gwerthodd SKF ei siars yn y cwmni. Yn 2007, dadgofrestrwyd Volvo o'r NASDAQ, ond mae'n parhau fel cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Stockholm.[4]
Ceir
[golygu | golygu cod]Mae Volvo Cars yn cynhyrchu a marchnata SUVs (sport utility vehicle, station wagons, sedans, compact executive sedans, a coupes. Er mwyn marchnata'r ceir mae gan y cwmni tua 2,300 o ddelwyr (cwmniau gwerthu annibynnol), gyda'r mwyafrif yn yr UDA, Sweden, Tsieina a Gwlad Belg.[5] Yn 2011, gwerthodd Volvo Cars 449,255 o geir, yn fydeang: cynnydd o 20.3% o'i gymharu â 2010.[6]
Ceir diweddar
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Contat Volvo Archifwyd 2014-07-09 yn y Peiriant Wayback." Volvo Cars. Retrieved on 5 Awst 2014. "Visiting address, Headquarters: VAK building, Assar Gabrielssons väg Göteborg"
- ↑ "Volvo's founders : Volvo Group – Global". Volvo. 14 Ebrill 1927. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-22. Cyrchwyd 12 Mehefin 2009.
- ↑ "History time-line : Volvo Group – Global". Volvo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-20. Cyrchwyd 12 Mehefin 2009.
- ↑ "AB Volvo applies for delisting from Nasdaq". Forbes. 14 Mehefin 2007. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2010.
- ↑ "Financial statement 2013 (FY 2012)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-30. Cyrchwyd 2016-11-27.
- ↑ "Volvo PV gör miljardvinst - Ekonomi - www.gp.se". Göteborgs-Posten (yn Swedish). TT. 2 Mai 2012. Cyrchwyd 2 Mai 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)